Posted on

Tymor 2016-17 – Y Rhannau Gorau

Am dymor fu 2016-17! Diolch i chi, ein cynulleidfaoedd, ffrindiau a phartneriaid gwych am ein cefnogi ni a’n cynorthwyo i gadw cerddoriaeth siambr yn fyw ar draws Cymru. Gobeithio i chi fwynhau’r arlwy gymaint ag y gwnaethom ni.

Cymerwch olwg isod ar uchafbwyntiau’r ychydig fisoedd diwethaf trwy gyfrwng y clipiau fideo ac oriel luniau…
Darllenwch fwy Tymor 2016-17 – Y Rhannau Gorau

Posted on

Y delyn yn cloi cyngerdd olaf Ensemble Cymru

Bydd Ensemble Cymru yn cloi eu cyfres Cyngerdd Coffi gyda’r delyn yn cael lle canolog mewn rhaglen o gerddoriaeth siambr drawiadol a berfformir gan ensemble o saith, yn cynnwys pedwarawd llinynnol a thelynores wobrwyog o’r Swistir.

Bydd taith y grŵp cerddoriaeth siambr o ogledd Cymru ym mis Mai yn dwyn ynghyd gerddoriaeth gan gyfansoddwyr o Gymru a Ffrainc yn cael ei pherfformio gan offerynwyr o’r radd uchaf o Gymru ac o bell.

Bydd Elisa Netzer, telynores sydd ar i fyny yn y Swistir, ei gwlad enedigol, yn ymuno â rhai o ddoniau cartref yr Ensemble gan gynnwys y fiolydd Sara Roberts o Fôn, a Chyfarwyddwr Artistig yr Ensemble, Peryn Clement-Evans sy’n byw ym Mangor.

Wrth sôn am ei hymddangosiad cyntaf yng Nghymru gyda’r Ensemble, dywedodd Elisa:

“Wrth imi baratoi i deithio i Gymru ar gyfer y daith, ni allaf ond meddwl cymaint o fraint yw cael perfformio rhaglen rwyf wrth fy modd gyda hi, mewn gwlad sy’n caru fy offeryn i gymaint. Ni allaf ddisgwyl i archwilio’r grym mawr sy gan gerddoriaeth siambr eto: dieithriaid llwyr yn dod at ei gilydd ac yn deall ei gilydd i’r dim drwy gerddoriaeth.”  

Mae’r rhaglen yn cyflwyno cymysgedd atgofus o gerddoriaeth gan gynnwys un o’r darnau mwyaf trawiadol o hardd i’w gyfansoddi erioed, Cyflwyniad ac Allegro gan Ravel, sy’n dangos yn berffaith ystod mynegiant y delyn. Bydd yna gerddoriaeth hefyd gan Debussy a Jean Francaix ochr yn ochr â darnau gan gyfansoddwyr o Gymru fel Christopher Painter, a aned ym Mhort Talbot, a John Metcalf, sefydlydd Gŵyl Bro Morgannwg.

Bydd y daith drwy Gymru yn galw yn Aberystwyth, Caerdydd, Llandudno, Caernarfon, Caergybi a’r Fflint yn ystod mis Mai. Mae manylion llawn am y rhaglen ar ein tudalen digwyddiadau.