Tymor 2016-17 – Y Rhannau Gorau

Am dymor fu 2016-17! Diolch i chi, ein cynulleidfaoedd, ffrindiau a phartneriaid gwych am ein cefnogi ni a’n cynorthwyo i gadw cerddoriaeth siambr yn fyw ar draws Cymru. Gobeithio i chi fwynhau’r arlwy gymaint ag y gwnaethom ni. Cymerwch olwg isod ar uchafbwyntiau’r ychydig fisoedd diwethaf trwy gyfrwng y clipiau fideo ac oriel luniau…

Y delyn yn cloi cyngerdd olaf Ensemble Cymru

Bydd Ensemble Cymru yn cloi eu cyfres Cyngerdd Coffi gyda’r delyn yn cael lle canolog mewn rhaglen o gerddoriaeth siambr drawiadol a berfformir gan ensemble o saith, yn cynnwys pedwarawd llinynnol a thelynores wobrwyog o’r Swistir. Bydd taith y grŵp cerddoriaeth siambr o ogledd Cymru ym mis Mai yn dwyn ynghyd gerddoriaeth gan gyfansoddwyr o… Continue reading Y delyn yn cloi cyngerdd olaf Ensemble Cymru