Cymysgedd detholiadol o gerddoriaeth lawen, ddifyr a ddyrchafol, o’r byd o gân, opera a chabaret, a llawer mwy yn ogystal! Cyngherddau’r haf yn eich milltir sgwâr i ddathlu dychweliad y gerddoriaeth fyw…
Tag: Opera Canolbarth Cymru
Elusennau Cerdd yn cydweithio i gefnogi perfformwyr yn ystod y pandemig
Mae gobaith newydd i gerddorion a chantorion llawrydd yng Nghymru y mae eu bywoliaeth wedi cael eu difetha gan y pandemig presennol. Bydd dwy elusen gerddorol Gymreig yn codi arian i gefnogi perfformwyr, cyfansoddwyr ac ymarferwyr cerdd i weithio gyda’u cymunedau lleol trwy gyfrwng cerddoriaeth. Gydag arian a godir, mae Ensemble Cymru ac Opera Canolbarth… Continue reading Elusennau Cerdd yn cydweithio i gefnogi perfformwyr yn ystod y pandemig
Ensemble Cymru
Ensemble Cymru, Ensemble Preswyl ym Mhrifysgol Bangor a Venue Cymru (Llandudno), yw’r prif grŵp perfformio cerddoriaeth siambr yng Nghymru gydag aelodaeth graidd o 20 o offerynwyr a chantorion. Fe’i sefydlwyd yn 2002 a’i genhadaeth yw hyrwyddo diwylliant cyfoes a threftadaeth cerddoriaeth siambr Gymreig, ynghyd â cherddoriaeth siambr o bob rhan o’ byd, i gynulleidfaoedd yng… Continue reading Ensemble Cymru
Galwad am gerddorion, cantorion a chyfansoddwyr yng Nghymru
Ydych chi’n gerddor, yn ganwr, yn gyfansoddwr opera, cerddoriaeth leisiol neu gerddoriaeth siambr? Hoffech chi wneud rhywbeth cadarnhaol yn ystod Covid-19 i gysylltu a chreu cerddoriaeth gyda’ch cymuned leol yng Nghymru? Allwch chi feddwl am brosiect newydd y gellir ei sefydlu a’i gyflwyno gyda grŵp cymunedol yn eich ardal leol? Os mai ‘ydw, hoffwn a gallaf’ yw’r atebion i’r uchod,… Continue reading Galwad am gerddorion, cantorion a chyfansoddwyr yng Nghymru
Cyflwyno ‘Eugene Onegin’ gan Tchaikovsky…
Wrth i ni baratoi i ymuno ag Opera Canolbarth Cymru ar gyfer taith y gwanwyn, gofynasom i’n Cyfarwyddwr Cerdd OCC, Jonathan Lyness rannu, ei farn ar Eugene Onegin Tchaikovsky fel darn, a’i brofiad o’r gwaith fel arweinydd. Cyflwyna John opera “hudol, synhwyrus, hardd a hypnotig” Tchaikovsky yn ei eiriau ei hun isod.