Dathlu Alawon

A hithau’n Ddiwrnod Cenedlaethol Awstria ddydd Sadwrn diwethaf , braf yw cyhoeddi y bydd teyrnged Cymreig i’r cyfansoddwr Awstraidd, Franz Schubert i’w glywed yn rhai o brif neuaddau cyngerdd Cymru yn ystod mis Tachwedd. Bydd grŵp cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru yn perfformio gwaith gan un o gyfansoddwyr mwyaf y byd, sef Wythawd… Continue reading Dathlu Alawon

Ensemble Cymru yn mynd ar eu taith fwyaf uchelgeisiol hyd yma o gerddoriaeth siambr

I gloi Tymor eu Pen-blwydd, mae ensemble cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru, yn mynd ar eu taith gyngerdd fwyaf uchelgeisiol hyd yma a fydd yn cynnwys naw o gerddorion rhagorol a cherddoriaeth gan Handel hyd at Debussy, yn ogystal â gwaith comisiwn newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymro, Gareth Glyn.

Cael plant bach i fwynhau cerddoriaeth dda

Nid ydych byth yn rhy ifanc i fwynhau cerddoriaeth, a phrofwyd hyn gan ein Bore Cerddoriaeth i Bobl Bach i blant rhwng 0-3 oed yn gynharach y mis hwn. Gyda’r ifancaf yn y grŵp yn ddim ond tri mis oed, cafodd pawb amser gwych yn ein sesiwn Dalcroze Eurhythmics yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli. Roedd y dosbarth… Continue reading Cael plant bach i fwynhau cerddoriaeth dda