Ensemble Cymru yn y Swistir

Fel rhan o Raglen Gyfnewid Diwylliannol Ensemble Cymru mae Ensemble Cymru wedi cael ei wahodd i berfformio ar ddiwrnod olaf Pencampwriaeth Gymreig yr Alpau yn Champéry yn Canton Valais (Wallis) yn y Swistir. Byddwn ni’n perfformio yn ddigwyddiad terfynol y gystadleuaeth ym mhresenoldeb Dirprwy Bennaeth Cenhadaeth a Conswl Cyffredinol Prydain yn y Swistir, Richard Ridout… Parhau i ddarllen Ensemble Cymru yn y Swistir

Cerddoriaeth, Cymraeg a Rumantsch yn y Swistir

Perfformiad ar gyfer Darllediad ar Radio a Theledu Rumantsch. Roedd y perfformiad ar y cyd â Corcanti Chur a Chôr Rumantsch o flaen disgyblion, athrawon, teuluoedd a’r cyhoedd yn brofiad gofiadwy iawn.  Recordiwyd yr holl ddigwyddiad ar gyfer teledu a radio Romansch. Yr uchafbwynt oedd perfformio Hen Wlad Fy Nhadau (trefn. Gareth Glyn) ar y cyd… Parhau i ddarllen Cerddoriaeth, Cymraeg a Rumantsch yn y Swistir

y Swistir o’r diwedd

Ar ôl cyfnewid awyrennau a bron yn colli ein bagiau yn Gatwick dyma Jonathan Rimmer, Oliver Wilson, Sara Lian Owen ac Anne Denholme newydd gyrraedd Gorsaf Drên Zurich ar y ffordd i Chur yn Graubünden.  Dyma brosiect cyffrous gyda chymuned sy’n siarad Romansch un o’r 4 iaith swyddogol y Swistir.