I gloi Tymor eu Pen-blwydd, mae ensemble cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru, yn mynd ar eu taith gyngerdd fwyaf uchelgeisiol hyd yma a fydd yn cynnwys naw o gerddorion rhagorol a cherddoriaeth gan Handel hyd at Debussy, yn ogystal â gwaith comisiwn newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymro, Gareth Glyn.
Tag: Wales
Delynores, Anne Denholm yn sgwrsio am gerddoriaeth newydd ac Ensemble Cymru cyn taith mis Mai
Rydym yn sgwrsio â Phrif Delynores Ensemble Cymru, a’r Delynores Frenhinol bresennol, Anne Denholm, yn ystod y paratoadau ar gyfer taith mis Mai, i ddarganfod sut mae gweithio gydag Ensemble Cymru yn helpu i hyrwyddo rhywbeth sy’n bwysig iawn iddi.
Cenhadaeth fasnachu Ensemble Cymru i China
Blog gan Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru. “Ar ôl dwy flynedd o siarad am sut gall Ensemble Cymru weithio gyda cherddorion a chyfansoddwyr o Tsieina, mae’n falch gennyf ddweud ein bod yn awr yn cymryd ein cam pendant cyntaf tuag at wireddu hyn…
Ensemble Cymru yn y Swistir
Fel rhan o Raglen Gyfnewid Diwylliannol Ensemble Cymru mae Ensemble Cymru wedi cael ei wahodd i berfformio ar ddiwrnod olaf Pencampwriaeth Gymreig yr Alpau yn Champéry yn Canton Valais (Wallis) yn y Swistir. Byddwn ni’n perfformio yn ddigwyddiad terfynol y gystadleuaeth ym mhresenoldeb Dirprwy Bennaeth Cenhadaeth a Conswl Cyffredinol Prydain yn y Swistir, Richard Ridout… Continue reading Ensemble Cymru yn y Swistir