Bydd Ensemble Cymru yn ymuno â chwmni Opera Canolbarth Cymru yn y gwanwyn mewn cynhyrchiad newydd o gampwaith Mozart, Priodas Figaro. Gan ddefnyddio cyfieithiad Saesneg Amanda Holden, bydd helyntion Figaro a’i ddarpar wraig Susanna wrth ymdrechu i dwyllo’u meistri, yn siwr o greu llond bol o chwerthin! Mae’r cynhyrchiad wedi ei deilwra’n arbennig i’r gynulleidfa… Parhau i ddarllen Priodas Figaro Mozart.. ar ein trothwy
Tag: what’s on North Wales
Dathlu Alawon
A hithau’n Ddiwrnod Cenedlaethol Awstria ddydd Sadwrn diwethaf , braf yw cyhoeddi y bydd teyrnged Cymreig i’r cyfansoddwr Awstraidd, Franz Schubert i’w glywed yn rhai o brif neuaddau cyngerdd Cymru yn ystod mis Tachwedd. Bydd grŵp cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru yn perfformio gwaith gan un o gyfansoddwyr mwyaf y byd, sef Wythawd… Parhau i ddarllen Dathlu Alawon
Mae’n gerddoriaeth i’n clustiau – cantorion yn ymuno ag Ensemble Cymru ar gyfer ein tymor newydd o Gyngherddau Coffi
Mae Tachwedd yn garreg filltir o bwys i’r sefydliad cerddoriaeth siambr, Ensemble Cymru. Am y tro cyntaf erioed, bydd cantorion yn perfformio fel rhan o’r ensemble ar gyfer ei dymor newydd sbon o Gyngherddau Coffi – cyfres y Lleisiau Clasurol. Bydd y soprano a anwyd ym Môn, Llio Evans, yn ymuno ag Ensemble Cymru ar… Parhau i ddarllen Mae’n gerddoriaeth i’n clustiau – cantorion yn ymuno ag Ensemble Cymru ar gyfer ein tymor newydd o Gyngherddau Coffi
Cinio cerddorol Ensemble Cymru yn Galeri
Ymunwch â’r grŵp cerddoriaeth glasurol o Fangor, Ensemble Cymru, am ginio pur wahanol yn Galeri y mis Medi yma. Yn ‘Blas o Ensemble Cymru’ bydd triawd o gerddorion cerddoriaeth siambr amryddawn yn diddanu ciniawyr i raglen awr o gerddoriaeth fyw a fydd yn eich cyfareddu. P’un a ydi cerddoriaeth glasurol yn faes newydd i chi,… Parhau i ddarllen Cinio cerddorol Ensemble Cymru yn Galeri