{"id":27177,"date":"2025-06-03T09:45:14","date_gmt":"2025-06-03T09:45:14","guid":{"rendered":"https:\/\/ensemble.cymru\/?page_id=27177"},"modified":"2025-10-13T11:28:39","modified_gmt":"2025-10-13T11:28:39","slug":"ynghudd-am-90-mlynedd","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\/ynghudd-am-90-mlynedd\/","title":{"rendered":"Ynghudd am 90 mlynedd!"},"content":{"rendered":"\n<p>gan Jonathan Lyness<\/p>\n\n\n\n<p>\u201c<em>Y clarin\u00e9t yw\u2019r chwythbren gorau o ddigon\u201d.<\/em> Wel, dyna ddatganiad dadleuol, os bu un erioed! Rydw i\u2019n si\u0175r y byddai\u2019r clarinetydd Peryn Clement-Evans, sylfaenydd Ensemble Cymru, yn cytuno\u2019n llwyr! \ud83d\ude09 Ond prysuraf ddweud nad Peryn na minnau sy\u2019n gyfrifol am y datganiad hwn, ond John Ireland (1879 \u2013 1962), y cyfansoddwr o Loegr. Ac mae ei weithiau\u2019n brawf o\u2019i deimladau yngl\u0177n \u00e2\u2019r mater; cyfansoddodd dri o weithiau cerddoriaeth siambr a oedd yn cynnwys offerynnau chwyth, sef: chwechawd ar gyfer clarin\u00e9t, corn ac offerynnau llinynnol, sonata ar gyfer clarin\u00e9t a phiano, a thrio ar gyfer clarin\u00e9t, soddgrwth a phiano, a gyfansoddwyd yn union cyn dechrau\u2019r Rhyfel Byd Cyntaf.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"341\" height=\"500\" src=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/John-Ireland-approx-1920.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-27142\" srcset=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/John-Ireland-approx-1920.jpg 341w, https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/John-Ireland-approx-1920-205x300.jpg 205w\" sizes=\"auto, (max-width: 341px) 100vw, 341px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">by Herbert Lambert, bromide print, circa 1920<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Mozart, yn y 1780au, oedd y cyfansoddwr enwog cyntaf i gynnwys y clarin\u00e9t modern, newydd mewn cerddoriaeth siambr a oedd, tan hynny, yn drwm dan ddylanwad offerynnau llinynnol. Defnyddiodd y clarin\u00e9t yn ei Bumawd Clarin\u00e9t a\u2019i Drio \u201cKegelstatt\u201d ar gyfer Clarin\u00e9t, Fiola a Phiano, a berfformiwyd gan EC yng nghyngherddau mis Ebrill. Cyfansoddwyd y gweithiau hyn yn arbennig ar gyfer Anton Stadler, sef clarinetydd ac un o gyfeillion Mozart. Ym 1861, cyfansoddodd Louise Farrenc o Ffrainc drio clarin\u00e9t ar gyfer ei chyfaill Adolphe Leroy, a oedd yn glarinetydd (erbyn y cyfnod hwn, roedd y clarin\u00e9t wedi datblygu\u2019n fawr o gymharu \u00e2 dyddiau Mozart). Ddeg mlynedd ar hunain yn ddiweddarach, ym 1891, roedd un o gyfeillion Johannes Brahms yn glarinetydd hefyd! Ei enw oedd Richard M\u00fchlfeld, a chyfansoddodd Brahms bedwar o weithiau siambr sylweddol ar ei gyfer, yn cynnwys pumawd clarin\u00e9t a thrio clarin\u00e9t.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan oedd John Ireland yn ei arddegau, clywodd M\u00fchlfeld yn canu\u2019r clarin\u00e9t mewn perfformiad o bumawd Brahms yn Neuadd St. James, Llundain ym 1898. Roedd yn llawn parch tuag at M\u00fchlfeld a photensial y clarin\u00e9t fel offeryn cerddoriaeth siambr. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, bu trio clarin\u00e9t Brahms yn ysbrydoliaeth i drio Ireland, lle defnyddiwyd yr un cyfuniad o offerynnau, sef: clarin\u00e9t, soddgrwth a phiano (mae cyfuniadau eraill, fel cyfuniad Mozart, hefyd ar gael). Ond pan gyfansoddodd Ireland ei drio, roedd M\u00fchlfeld wedi marw, ac ni wyddom a oedd gan yr hen Ireland druan gyfeillion a oedd hefyd yn glarinetwyr!<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"768\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/The-opening-of-Irelands-Clarinet-Trio-web-768x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-27140\" srcset=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/The-opening-of-Irelands-Clarinet-Trio-web-768x1023.jpg 768w, https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/The-opening-of-Irelands-Clarinet-Trio-web-225x300.jpg 225w, https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/The-opening-of-Irelands-Clarinet-Trio-web.jpg 770w\" sizes=\"auto, (max-width: 768px) 100vw, 768px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">The opening of Ireland&#8217;s Clarinet Trio<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n\n\n<p>Yn wahanol i Debussy a Vaughan Williams \u2013 sef cyfansoddwyr y bydd Ensemble Cymru yn perfformio\u2019u cerddoriaeth mewn cyngherddau ym mis Mehefin \u2013 ni chafodd John Ireland ei werthfawrogi\u2019n fawr yn ystod ei oes. Perfformiwyd ei drio clarin\u00e9t am y tro cyntaf ym mis Mehefin 1914, ac unwaith eto o bosibl ym mis Mai 1915. Yna, rhoddodd Ireland y gwaith i\u2019r naill ochr, ac er ei fod wedi ailddefnyddio rhannau ohono, arhosodd y trio clarin\u00e9t gwreiddiol ynghudd am bron i 90 mlynedd, heb gael ei berfformio na\u2019i gyhoeddi! Cafodd ei ail-greu\u2019n ofalus gan Stephen Fox, y clarinetydd o Ganada, trwy ddefnyddio casgliad o ddeunyddiau anghyflawn a gedwid yn y Llyfrgell Brydeinig. Perfformiwyd y fersiwn fodern am y tro cyntaf yn 2007. Mae\u2019n waith aeddfed, dramatig a hyfryd, mae\u2019n drawiadol o wreiddiol ac mae\u2019n gwbl nodweddiadol o Ireland. Ac er ei bod yn gwbl glir mai cyfansoddwr o Brydain a gyfansoddodd y gwaith, mae dylanwad Debussy a Ravel i\u2019w weld yn amlwg. Gyda\u2019i nodweddion soniarus Prydeinig a Ffrengig, yn ddi-os fe fyddai\u2019r gwaith hwn wedi cael cryn groeso yn un o wyliau Gregynog rhwng y ddau ryfel, pe bai\u2019r chwiorydd Davies yn gwybod am ei fodolaeth.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Musicians<\/h2>\n\n\n\n<p>Christopher Goodman \u2013 clarin\u00e9t<br>Nia Harries \u2013 soddgrwth<br>Richard Ormrod\u00a0\u2013 piano<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Programme<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><strong>Vaughan Williams<\/strong> &#8211; &#8216;Six Studies in English Folksongs&#8217; ar gyfer y Soddgrwth a\u2019r Piano (1926) 9\u2019<\/li>\n\n\n\n<li><strong>Claude Debussy<\/strong> &#8211; &#8216;Premiere Rhapsodie&#8217; ar gyfer y Clarin\u00e9t a\u2019r Piano (1909-10) 9\u2019<\/li>\n\n\n\n<li><strong>John Ireland<\/strong>\u00a0&#8211; Trio ar gyfer y Clarin\u00e9t, y Soddgrwth a\u2019r Piano (1913) 23\u2019<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Event Links<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li><a href=\"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/events\/yr-ystafell-gerdd-gregynog-8\/\">Yr Ystafell Gerdd, Gregynog &#8211; 07\/06\/25<\/a><\/li>\n\n\n\n<li><a href=\"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/events\/yr-ystafell-gerdd-eglwys-santes-fair-8\/\">Yr Ystafell Gerdd, Eglwys Santes Fair &#8211; 08\/06\/25<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>gan Jonathan Lyness \u201cY clarin\u00e9t yw\u2019r chwythbren gorau o ddigon\u201d. Wel, dyna ddatganiad dadleuol, os bu un erioed! Rydw i\u2019n si\u0175r y byddai\u2019r clarinetydd Peryn Clement-Evans, sylfaenydd Ensemble Cymru, yn cytuno\u2019n llwyr! \ud83d\ude09 Ond prysuraf ddweud nad Peryn na minnau sy\u2019n gyfrifol am y datganiad hwn, ond John Ireland (1879 \u2013 1962), y cyfansoddwr o&hellip; <a class=\"more-link\" href=\"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\/ynghudd-am-90-mlynedd\/\">Parhau i ddarllen <span class=\"screen-reader-text\">Ynghudd am 90 mlynedd!<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":54,"featured_media":0,"parent":27018,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"inline_featured_image":false,"footnotes":""},"class_list":["post-27177","page","type-page","status-publish","hentry","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.6 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Ynghudd am 90 mlynedd! - Ensemble Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\/ynghudd-am-90-mlynedd\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Ynghudd am 90 mlynedd! - Ensemble Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"gan Jonathan Lyness \u201cY clarin\u00e9t yw\u2019r chwythbren gorau o ddigon\u201d. Wel, dyna ddatganiad dadleuol, os bu un erioed! Rydw i\u2019n si\u0175r y byddai\u2019r clarinetydd Peryn Clement-Evans, sylfaenydd Ensemble Cymru, yn cytuno\u2019n llwyr! \ud83d\ude09 Ond prysuraf ddweud nad Peryn na minnau sy\u2019n gyfrifol am y datganiad hwn, ond John Ireland (1879 \u2013 1962), y cyfansoddwr o&hellip; Parhau i ddarllen Ynghudd am 90 mlynedd!\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\/ynghudd-am-90-mlynedd\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ensemble Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/EnsCymru\/\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2025-10-13T11:28:39+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/John-Ireland-approx-1920.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"341\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"500\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@EnsCymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"4 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\\\/ynghudd-am-90-mlynedd\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\\\/ynghudd-am-90-mlynedd\\\/\",\"name\":\"Ynghudd am 90 mlynedd! - Ensemble Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\\\/ynghudd-am-90-mlynedd\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\\\/ynghudd-am-90-mlynedd\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/05\\\/John-Ireland-approx-1920.jpg\",\"datePublished\":\"2025-06-03T09:45:14+00:00\",\"dateModified\":\"2025-10-13T11:28:39+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\\\/ynghudd-am-90-mlynedd\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\\\/ynghudd-am-90-mlynedd\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\\\/ynghudd-am-90-mlynedd\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/05\\\/John-Ireland-approx-1920.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2025\\\/05\\\/John-Ireland-approx-1920.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\\\/ynghudd-am-90-mlynedd\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Darganfod Cerddoriaeth Siambr\",\"item\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":3,\"name\":\"Ynghudd am 90 mlynedd!\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Ensemble Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#organization\",\"name\":\"Ensemble Cymru\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/08\\\/2019-09-02EnsembleSquareLogo.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/08\\\/2019-09-02EnsembleSquareLogo.png\",\"width\":320,\"height\":320,\"caption\":\"Ensemble Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/EnsCymru\\\/\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/EnsCymru\",\"https:\\\/\\\/www.instagram.com\\\/enscymru\"]}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Ynghudd am 90 mlynedd! - Ensemble Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\/ynghudd-am-90-mlynedd\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Ynghudd am 90 mlynedd! - Ensemble Cymru","og_description":"gan Jonathan Lyness \u201cY clarin\u00e9t yw\u2019r chwythbren gorau o ddigon\u201d. Wel, dyna ddatganiad dadleuol, os bu un erioed! Rydw i\u2019n si\u0175r y byddai\u2019r clarinetydd Peryn Clement-Evans, sylfaenydd Ensemble Cymru, yn cytuno\u2019n llwyr! \ud83d\ude09 Ond prysuraf ddweud nad Peryn na minnau sy\u2019n gyfrifol am y datganiad hwn, ond John Ireland (1879 \u2013 1962), y cyfansoddwr o&hellip; Parhau i ddarllen Ynghudd am 90 mlynedd!","og_url":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\/ynghudd-am-90-mlynedd\/","og_site_name":"Ensemble Cymru","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/EnsCymru\/","article_modified_time":"2025-10-13T11:28:39+00:00","og_image":[{"width":341,"height":500,"url":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/John-Ireland-approx-1920.jpg","type":"image\/jpeg"}],"twitter_card":"summary_large_image","twitter_site":"@EnsCymru","twitter_misc":{"Est. reading time":"4 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\/ynghudd-am-90-mlynedd\/","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\/ynghudd-am-90-mlynedd\/","name":"Ynghudd am 90 mlynedd! - Ensemble Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\/ynghudd-am-90-mlynedd\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\/ynghudd-am-90-mlynedd\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/John-Ireland-approx-1920.jpg","datePublished":"2025-06-03T09:45:14+00:00","dateModified":"2025-10-13T11:28:39+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\/ynghudd-am-90-mlynedd\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\/ynghudd-am-90-mlynedd\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\/ynghudd-am-90-mlynedd\/#primaryimage","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/John-Ireland-approx-1920.jpg","contentUrl":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/John-Ireland-approx-1920.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\/ynghudd-am-90-mlynedd\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Darganfod Cerddoriaeth Siambr","item":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/darganfod-cerddoriaeth-siambr\/"},{"@type":"ListItem","position":3,"name":"Ynghudd am 90 mlynedd!"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/","name":"Ensemble Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#organization","name":"Ensemble Cymru","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/2019-09-02EnsembleSquareLogo.png","contentUrl":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/2019-09-02EnsembleSquareLogo.png","width":320,"height":320,"caption":"Ensemble Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/EnsCymru\/","https:\/\/x.com\/EnsCymru","https:\/\/www.instagram.com\/enscymru"]}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/27177","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/54"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=27177"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/27177\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":27181,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/27177\/revisions\/27181"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/27018"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=27177"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}