{"id":1097,"date":"2012-02-18T23:07:05","date_gmt":"2012-02-18T23:07:05","guid":{"rendered":"http:\/\/www.ensemblecymru.co.uk\/?p=1097"},"modified":"2021-10-19T12:13:40","modified_gmt":"2021-10-19T12:13:40","slug":"dancing-clarinets","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2012\/02\/dancing-clarinets\/","title":{"rendered":"Clarinet ar Ddawns"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae&#8217;r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn hynod brysur, ac rwyf wedi bod yn\u00a0ymrafael\u00a0\u00e2\u00a0fy ngwaith\u00a0\u00e2g Ensemble Cymru i&#8217;r eithaf.\u00a0Hyd yn hyn, rwyf wedi bod yn rhan o dorraeth o gyngherddau,\u00a0arwain nifer o weithdai addysgiadol, ac wrth gwrs, chwarae llwyth o gerddoriaeth newydd!<\/p>\n\n\n\n<!--more-->\n\n\n\n<p>Haf diwethaf, roeddwn yn ffodus i dderbyn grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i greu prosiect newydd.&nbsp;&nbsp;Un o brif amcanion y prosiect oedd i weithio gyda dawnsiwr, cyfansoddwr ac Ensemble Cymru i greu a pherfformio gwaith newydd. I gydfynd&nbsp;\u00e2 hynny penderfynais ddysgu a pherfformio&#8217;r gwaith Der Kleine Harlekin, a gyfansoddwyd gan&nbsp;y&nbsp;diweddar Karlheinz Stockhausen. Camau cyntaf y prosiect oedd penderfynu pwy i weithio gyda &#8211; nid oedd hwnnw&#8217;n benderfyniad anodd.&nbsp;Rwyf wedi edmygu Chris Painter fel cyfansoddwr ers blynyddoedd, ac roeddwn yn awyddus iddo fo gyfansoddi&#8217;r gwaith newydd.&nbsp;O ran dewis dawnsiwr\/dawnswraig, pendrefynais ofyn wrth Rosalind Haf Brooks fel canlyniad i weld y gwaith ardderchog y mae hi&#8217;n ei wneud&nbsp;gyda&#8217;r cwmni dawns, Earthfall.&nbsp;Y cam nesaf oedd cael Rosalind a Chris i gytuno i weithio gyda fi!!!<\/p>\n\n\n\n<p>Fy nghyfarwyddiadau i Chris oedd i gyfansoddi gwaith ar gyfer clarinetydd unigol a dawnswraig, mewn nifer o symudiadau. Roeddwn yn awyddus i&#8217;r gwaith fod ddigon hyblyg i&#8217;w gael ei berfformio fel deuawd yn ogystal&nbsp;\u00e2 chan glarinetydd ar ei ben\/ei phen ei hun. Roeddwn hefyd yn awyddus i&#8217;r symudiadau unigol fedru cael eu perfformio ar eu pen eu hunain yn ogystal&nbsp;\u00e2 chael eu perfformio fel rhan o&#8217;r cyfanwaith.&nbsp;Ar \u00f4l cryn drafod,&nbsp;penderfynom seilio&#8217;r gwaith ar elfen o&#8217;rMabinogi, a dyna ddechrau Hanes Taliesin.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Hanes Taliesin<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-left\">Roedd gan Ceridwen a&#8217;i g\u0175r Tegid Foel ddau blentyn. Roedd y ferch, Creirwy, yn arbennig o hardd, ond roedd y mab, Morfran, yn eithriadol o hyll. Gan ei fod mor hyll, penderfynodd Ceridwen y byddai&#8217;n rhoi &#8220;awen a gwybodaeth&#8221; iddo i wneud iawn am hynny. Bu&#8217;n berwi cymysgedd yn y pair am flwyddyn a diwrnod, gyda&#8217;r bwriad fod Morfan yn ei yfed ac yn cael yr awen. Roedd hen \u0175r dall o&#8217;r enw Morda yn cadw&#8217;r t\u00e2n dan y pair, a Gwion Bach yn gofalu am y pair. Pan oedd y gymysgedd bron yn barod, tasgodd tri dafn o&#8217;r pair ar law Gwion Bach, a chan eu bod mor boeth, fe&#8217;i rhoes yn ei geg. Sylweddolodd Ceridwen ar unwaith ei fod ef wedi ei gynysgaeddu \u00e2&#8217;r awen yn lle ei mab, a dechreuodd ei ymlid. Newidiodd Gwion Bach ei ffurf yn ysgyfarnog, ond newidiodd Ceridwen ei hyn yn filiast i&#8217;w ymlid. Yna trodd Gwion yn bysgodyn, a Ceridwen yn ddyfrgi. Trodd Gwion ei hun yn aderyn, a throdd Ceridwen yn walch i&#8217;w ymlid; yna pan oedd y gwalch bron a&#8217;i ddal, gwelodd Gwion bentwr o wenith. Trodd ei hun yn ronyn gwenith ynghanol y pentwr, ond trodd Ceridwen ei hun yn iar a&#8217;i fwyta. Wedi bwyta Gwion beichiogodd Ceridwen, a naw mis yn ddiweddarach ganwyd plentyn iddi. Gwyddai Ceridwen mai Gwion Bach oedd y plentyn, ond roedd mor dlws fel na allai ei ladd. Gosododd ef mewn cwdyn o groen a&#8217;i daflu i&#8217;r m\u00f4r. Fe wnaeth dyn or enw Elffin ddarganfod y baban yn y cwdyn. Cododd Elffin y baban a dywedodd wrth ei was &#8220;Llyma dal iesin&#8221; (&#8216;Dyma dalcen teg&#8217;).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-left\">Tra&#8217;r oedd Chris yn cyfansoddi, cefais gyfle i gwrdd&nbsp;\u00e2 Rosalind, a chychwyn ymarfer Der Kleine Harlekin &#8211; gwaith ar gyfer clarinetydd unigol sy&#8217;n chwarae rol harlecwin. Ar gyfer perfformio&#8217;r gwaith hwn, nid yw chwarae clarinet yn unig yn ddigonol! Mae&#8217;n ofynnol&nbsp;i mi symud, creu ystumiau, creu effeithiau taro gyda fy nhraed a&#8230;..gwisgo i fyny!&nbsp;Cawsom hwyl yn ymarfer, ac roedd Rosalind o help mawr. Roedd ganddi dipyn o waith i&#8217;w gyflawni o ystyried nad wyf i&#8217;n edrych nag yn symud fel dawnswraig!<\/p>\n\n\n\n<p>Chwarae clarinet ar un goes&#8230;gofyn am drwbwl!<\/p>\n\n\n\n<p>Tra&#8217;r oedd hyn i gyd yn digwydd, roedd Chris yn brysur yn cyfansoddi, ac erbyn diwedd yr Haf derbyniais ddrafft cyntaf Hanes Taliesin!&nbsp;Dechreuais ymarfer yn syth, gan ganolbwyntio ar y symudiad cyntaf &#8211;&nbsp;Pair Dadeni. Y&nbsp;symudiad yma, ynghyd&nbsp;\u00e2 Der Kleine Harlekin oedd fy rhaglen ar gyfer fy nhaith gyntaf yn cynrychioli Llysgenad Cerddoriaeth Newydd&nbsp;Ensemble Cymru ym mis Hydref. Fe wnaethom berfformio cyngherddau hyd a lled Gogledd Cymru, a chawsom amser gwych. Canolbwynt gwaith yr ychydig fisoedd canlynol oedd cymysgedd o ymarfer ac arwain cyfresi o weithdai addysgiadol i Ensemble Cymru &#8211; a hynny gyda chriw o bobl ifanc&nbsp;arbennig iawn. Fe wnaf greu blog ar wah\u00e2n i hwn i son am y gwaith hwnnw. Mae&#8217;r rheini oedd yn rhan o&#8217;r gwaith yn haeddu tudalen gyfan i&#8217;w hunain!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-left\">Ar \u00f4l y Nadolig treuliais wythnos yng Nghaerdydd yn ymarfer Hanes Taliesin gyda Rosalind. Roeddwn wedi creu recordiad o&#8217;r gwaith iddi ychydig fisoedd ynghynt, er mwyn iddi gael cyfle i feddwl am y symudiadau. Roedd yr ymarferion yn gynhyrchiol iawn, ac roedd gan Rosalind syniadau gwych. Mae&#8217;r gerddoriaeth yn cydfynd&nbsp;\u00e2 dawns i&#8217;r dim.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l dychwelyd o Gaerdydd, rhaid oedd i mi ddechrau paratoi ar gyfer ail daith Ensemble Cymru ym mis Chwefror. Treuliais yr amser yn canolbwyntio ar ail symudiad Hanes Taliesin &#8211; Gwion yn Hedfan a Genedigaeth Taliesin, ac ar waith Paul Mealor ar gyfer clarinet unigol &#8216;Solemn Liturgy&#8217;.\u00a0Cafodd y gwaith ei gyfansoddi yn 2006 ar gyfer fy nghyn athro Ian Mitchell.\u00a0Cefais y fraint o gael perfformio&#8217;r gwaith i&#8217;r cyfansoddwr ym mis Medi 2011, fel canlyniad i gael gwahoddiad gan Wyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru i berfformio mewn gweithdy cerddoriaeth fodern. Roedd Paul yn gadarnhaol iawn, a oedd yn ryddhad mawr! Nawr fod cyngherddau mis Chwefror drosodd, mae&#8217;n bryd i mi ganolbwyntio ar brif ddigwyddiad y flwyddyn &#8211; Taith Genedlaethol Ensemble Cymru, ac rwy&#8217;n edrych ymlaen yn fawr! Bydd Rosalind yn ymuno\u00a0\u00e2 mi i\u00a0berfformio&#8217;r Painter\u00a0a&#8217;r Stockhausen, ac mi fydda innau&#8217;n ymuno \u00e2g Ensemble Cymru am ran o&#8217;u rhaglen. Roeddwn yn Llundain ychydig wythnosau yn \u00f4l yn ymarfer gyda&#8217;r Ensemble, a oedd yn brofiad gwych.\u00a0Er fy mod wrth fy modd yn\u00a0perfformio gweithiau unigol ar gyfer y clarinet,\u00a0rwy&#8217;n\u00a0hynod o gyffrous o gael y cael y cyfle i rannu&#8217;r llwyfan\u00a0\u00e2 Rosalind ag Ensemble Cymru &#8211; mae\u00a0perfformio ar ben fy hun o hyd weithiau&#8217;n mynd\u00a0yn unig! Rwy&#8217;n gobeithio&#8217;n fawr cael cwrdd a llawer ohonoch ym misoedd Mawrth ag Ebrill! <\/p>\n\n\n\n<p>Hwyl am y tro! <\/p>\n\n\n\n<p>Sioned <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn hynod brysur, ac rwyf wedi bod yn\u00a0ymrafael\u00a0\u00e2\u00a0fy ngwaith\u00a0\u00e2g Ensemble Cymru i&#8217;r eithaf.\u00a0Hyd yn hyn, rwyf wedi bod yn rhan o dorraeth o gyngherddau,\u00a0arwain nifer o weithdai addysgiadol, ac wrth gwrs, chwarae llwyth o gerddoriaeth newydd!<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"inline_featured_image":false,"footnotes":""},"categories":[658,233,825],"tags":[],"class_list":["post-1097","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-creu-cerddoriaeth","category-rhyngwladol","category-datblygu-dawn","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.4 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Clarinet ar Ddawns - Ensemble Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2012\/02\/dancing-clarinets\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Clarinet ar Ddawns - Ensemble Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Mae&#8217;r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn hynod brysur, ac rwyf wedi bod yn\u00a0ymrafael\u00a0\u00e2\u00a0fy ngwaith\u00a0\u00e2g Ensemble Cymru i&#8217;r eithaf.\u00a0Hyd yn hyn, rwyf wedi bod yn rhan o dorraeth o gyngherddau,\u00a0arwain nifer o weithdai addysgiadol, ac wrth gwrs, chwarae llwyth o gerddoriaeth newydd!\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2012\/02\/dancing-clarinets\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ensemble Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/EnsCymru\/\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2012-02-18T23:07:05+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-10-19T12:13:40+00:00\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Peryn Clement-Evans\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@EnsCymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@EnsCymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Peryn Clement-Evans\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2012\\\/02\\\/dancing-clarinets\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2012\\\/02\\\/dancing-clarinets\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Peryn Clement-Evans\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/ed4b2b012becf53af3d660640da73463\"},\"headline\":\"Clarinet ar Ddawns\",\"datePublished\":\"2012-02-18T23:07:05+00:00\",\"dateModified\":\"2021-10-19T12:13:40+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2012\\\/02\\\/dancing-clarinets\\\/\"},\"wordCount\":1119,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#organization\"},\"articleSection\":[\"Creu Cerddoriaeth\",\"Cyd-greu a Chydweithio\",\"Datblygu Dawn\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2012\\\/02\\\/dancing-clarinets\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2012\\\/02\\\/dancing-clarinets\\\/\",\"name\":\"Clarinet ar Ddawns - Ensemble Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#website\"},\"datePublished\":\"2012-02-18T23:07:05+00:00\",\"dateModified\":\"2021-10-19T12:13:40+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2012\\\/02\\\/dancing-clarinets\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2012\\\/02\\\/dancing-clarinets\\\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2012\\\/02\\\/dancing-clarinets\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Clarinet ar Ddawns\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Ensemble Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#organization\",\"name\":\"Ensemble Cymru\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/08\\\/2019-09-02EnsembleSquareLogo.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/08\\\/2019-09-02EnsembleSquareLogo.png\",\"width\":320,\"height\":320,\"caption\":\"Ensemble Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/EnsCymru\\\/\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/EnsCymru\",\"https:\\\/\\\/www.instagram.com\\\/enscymru\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/ed4b2b012becf53af3d660640da73463\",\"name\":\"Peryn Clement-Evans\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/author\\\/perynensemblecymru-co-uk\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Clarinet ar Ddawns - Ensemble Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2012\/02\/dancing-clarinets\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Clarinet ar Ddawns - Ensemble Cymru","og_description":"Mae&#8217;r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn hynod brysur, ac rwyf wedi bod yn\u00a0ymrafael\u00a0\u00e2\u00a0fy ngwaith\u00a0\u00e2g Ensemble Cymru i&#8217;r eithaf.\u00a0Hyd yn hyn, rwyf wedi bod yn rhan o dorraeth o gyngherddau,\u00a0arwain nifer o weithdai addysgiadol, ac wrth gwrs, chwarae llwyth o gerddoriaeth newydd!","og_url":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2012\/02\/dancing-clarinets\/","og_site_name":"Ensemble Cymru","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/EnsCymru\/","article_published_time":"2012-02-18T23:07:05+00:00","article_modified_time":"2021-10-19T12:13:40+00:00","author":"Peryn Clement-Evans","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@EnsCymru","twitter_site":"@EnsCymru","twitter_misc":{"Written by":"Peryn Clement-Evans","Est. reading time":"5 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2012\/02\/dancing-clarinets\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2012\/02\/dancing-clarinets\/"},"author":{"name":"Peryn Clement-Evans","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/ed4b2b012becf53af3d660640da73463"},"headline":"Clarinet ar Ddawns","datePublished":"2012-02-18T23:07:05+00:00","dateModified":"2021-10-19T12:13:40+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2012\/02\/dancing-clarinets\/"},"wordCount":1119,"publisher":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#organization"},"articleSection":["Creu Cerddoriaeth","Cyd-greu a Chydweithio","Datblygu Dawn"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2012\/02\/dancing-clarinets\/","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2012\/02\/dancing-clarinets\/","name":"Clarinet ar Ddawns - Ensemble Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#website"},"datePublished":"2012-02-18T23:07:05+00:00","dateModified":"2021-10-19T12:13:40+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2012\/02\/dancing-clarinets\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2012\/02\/dancing-clarinets\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2012\/02\/dancing-clarinets\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Clarinet ar Ddawns"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/","name":"Ensemble Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#organization","name":"Ensemble Cymru","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/2019-09-02EnsembleSquareLogo.png","contentUrl":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/2019-09-02EnsembleSquareLogo.png","width":320,"height":320,"caption":"Ensemble Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/EnsCymru\/","https:\/\/x.com\/EnsCymru","https:\/\/www.instagram.com\/enscymru"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/ed4b2b012becf53af3d660640da73463","name":"Peryn Clement-Evans","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/author\/perynensemblecymru-co-uk\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1097","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1097"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1097\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1097"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1097"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1097"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}