{"id":5466,"date":"2016-10-27T15:06:33","date_gmt":"2016-10-27T15:06:33","guid":{"rendered":"http:\/\/ensemble.cymru\/cy\/?p=5466"},"modified":"2021-10-19T11:47:00","modified_gmt":"2021-10-19T11:47:00","slug":"croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2016\/10\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\/","title":{"rendered":"Croesawu Anne Denholm, prif delynores newydd Ensemble Cymru"},"content":{"rendered":"<figure id=\"attachment_5274\" aria-describedby=\"caption-attachment-5274\" style=\"width: 200px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/04\/Anne-Denholm_credit-Timothy-Ellis.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-5274 size-medium\" src=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/04\/Anne-Denholm_credit-Timothy-Ellis-200x300.jpg\" alt=\"Anne Denholm_credit Timothy Ellis\" width=\"200\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/04\/Anne-Denholm_credit-Timothy-Ellis-200x300.jpg 200w, https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/04\/Anne-Denholm_credit-Timothy-Ellis-683x1024.jpg 683w, https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/04\/Anne-Denholm_credit-Timothy-Ellis.jpg 1w\" sizes=\"auto, (max-width: 200px) 100vw, 200px\" \/><\/a><figcaption id=\"caption-attachment-5274\" class=\"wp-caption-text\">\u00a9Timothy Ellis<\/figcaption><\/figure>\n<h4>Wrth i Ensemble Cymru baratoi at ddechrau tymor newydd ddiwedd mis Hydref, mae Anne Denholm, sydd newydd ei phenodi&#8217;n brif delynores yr Ensemble, yn rhoi golwg i ni ar ei swyddogaeth fel Telynores Frenhinol, ei hoffter o gerddoriaeth siambr, a sut y gwnaeth tyfu i fyny yng Nghymru helpu i feithrin ei huchelgais i chwarae&#8217;r delyn fel gyrfa.<\/h4>\n<p>Yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin ac o dras Albanaidd, daeth Anne i gysylltiad gyntaf \u00e2&#8217;r delyn fel un o&#8217;r offerynnau a gynigid yn ei hysgol gynradd fel rhan o&#8217;u cynllun gwersi offerynnol &#8211; rhywbeth a oedd <em>&#8220;yn sicr yn fwy tebygol o ddigwydd mewn ysgol Gymreig!&#8221;<\/em> yn \u00f4l Anne.<\/p>\n<p>Yn un ar ddeg oed roedd Anne yn aelod o Gerddorfa Genedlaethol y Plant ac eisoes yn dechrau ystyried gyrfa ym maes cerddoriaeth.\u00a0 Erbyn iddi gyrraedd tair ar ddeg roedd wedi rhoi ei bryd yn llwyr ar yrfa gerddorol ac yn benderfynol o wneud popeth i gyflawni hynny.<\/p>\n<p>Ac mae&#8217;r penderfyniad hwnnw wedi talu ar ei ganfed.\u00a0 Aeth Anne ymlaen i gael gradd Meistr gyda rhagoriaeth o&#8217;r Royal Academy of Music (RAM) yn Llundain, gan ennill gwobr Scheffel-Stein i&#8217;r delyn, gwobr Syr Reginald Thatcher a Gwobr Regency am gyrhaeddiad nodedig.<\/p>\n<p>Yn fuan dechreuodd Anne wneud enw iddi&#8217;i hun fel un o delynorion ifanc amlycaf Prydain ac ni fu&#8217;n disgwyl yn hir cyn derbyn gwahoddiad i un o&#8217;r swyddi amlycaf yn y wlad, sef Telynores Swyddogol i Dywysog Cymru.<\/p>\n<figure id=\"attachment_5462\" aria-describedby=\"caption-attachment-5462\" style=\"width: 300px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/10\/Royal_Harpist_001-750x508.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-5462 size-medium\" src=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/10\/Royal_Harpist_001-750x508-300x203.jpg\" alt=\"06.07.15 - TRH Prince of Wales and the Duchess of Cornwall Evening Reception, Llwynywermod\" width=\"300\" height=\"203\" srcset=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/10\/Royal_Harpist_001-750x508-300x203.jpg 300w, https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/10\/Royal_Harpist_001-750x508.jpg 1w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><figcaption id=\"caption-attachment-5462\" class=\"wp-caption-text\">\u00a9Gareth Everett<\/figcaption><\/figure>\n<p>Cafodd swydd Telynor Brenhinol\/Telynores Frenhinol ei hadfer yn 2000 gan Dywysog Cymru gyda thair amcan iddi: hyrwyddo&#8217;r delyn fel offeryn, hyrwyddo diwylliant Cymreig, a chefnogi artistiaid ifanc.\u00a0 Mae proses penodi Telynor Brenhinol\/Telynores Frenhinol yn cynnwys enwebu, ymgeisio, clyweliad a chyfweliad.\u00a0 Penodwyd Anne i&#8217;r swydd yng Ngorffennaf 2015 ac mae&#8217;n cofio teimlo&#8217;n eithriadol freintiedig ac ar ben ei digon a dywed fod yr ychydig fisoedd cyntaf yn y swydd yn gyfnod o gyffro a datblygiad mawr.<\/p>\n<p>Ymysg dyletswyddau eraill, mae swydd Telynores Frenhinol yn galluogi Anne i hyrwyddo&#8217;r delyn fel offeryn cymwys i gynulleidfaoedd a chyfansoddwyr fel ei gilydd, rhywbeth y mae&#8217;n teimlo&#8217;n gryf amdano:\u00a0 <em>&#8220;Mae gan bawb sy&#8217;n caru&#8217;r delyn ddyled fawr i&#8217;r Tywysog am adfer y swydd yma, sy&#8217;n galluogi i&#8217;r delyn gael ei gwerthfawrogi gan gynulleidfa ehangach, ac mae&#8217;r swydd yn sicr o gymorth i hyrwyddo&#8217;r delyn ym myd cerddoriaeth glasurol.&#8221;\u00a0<\/em><\/p>\n<p>Mae Anne yn frwd ynghylch mynd \u00e2 cherddoriaeth glasurol i&#8217;r gymuned ehangach.\u00a0 Er 2015 mae Anne wedi bod yn perfformio dan &#8216;Live Music Now&#8217;, sefydliad sy&#8217;n cynnig profiadau cerddorol a chynnal cyngherddau hygyrch i bawb, yn cynnwys plant a phobl oedrannus.\u00a0 Mae Anne yn gweithio hefyd gyda &#8216;Bach to Baby&#8217;, project sydd wedi&#8217;i anelu&#8217;n arbennig at ddarparu cyngherddau o safon i blant o bob oed.<\/p>\n<figure id=\"attachment_5464\" aria-describedby=\"caption-attachment-5464\" style=\"width: 300px\" class=\"wp-caption alignleft\"><a href=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/10\/Bach-to-Baby-2015_Laura-Ruiz_.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-5464 size-medium\" src=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/10\/Bach-to-Baby-2015_Laura-Ruiz_-300x200.jpg\" alt=\"bach-to-baby-2015_laura-ruiz_\" width=\"300\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/10\/Bach-to-Baby-2015_Laura-Ruiz_-300x200.jpg 300w, https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/10\/Bach-to-Baby-2015_Laura-Ruiz_.jpg 1w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><figcaption id=\"caption-attachment-5464\" class=\"wp-caption-text\">Bach to Baby \u00a9Laura Ruiz<\/figcaption><\/figure>\n<p>Mae&#8217;n ffodus, felly, mai Anne yw Prif Delynores Ensemble Cymru; cwmni o Ogledd Cymru sy&#8217;n rhannu llawer o frwdfrydedd Anne dros fynd \u00e2 cherddoriaeth glasurol at gynulleidfa mor eang \u00e2 phosibl.\u00a0 Fel rhan o daith Ensemble Cymru fis Hydref a Thachwedd eleni, bydd Anne, ynghyd \u00e2 thri aelod arall o&#8217;r ensemble, yn mynd \u00e2 cherddoriaeth siambr i gymunedau ledled Cymru gan berfformio mewn ysbytai ac ysgolion, yn ogystal \u00e2&#8217;r prif leoliadau cyngherddau.<\/p>\n<p>Mae gweithio gydag Ensemble Cymru nid yn unig yn sicrhau bod Anne yn parhau \u00e2&#8217;i gwaith o fynd \u00e2 cherddoriaeth i gymunedau, mae&#8217;n helpu hefyd i hyrwyddo&#8217;r delyn a&#8217;i repertoire ymhellach, rhywbeth y mae Anne yn awchu amdano:<\/p>\n<p><em>&#8220;Mae unrhyw gyfle i gynnwys y delyn mewn cerddoriaeth siambr yn gyfle gwerthfawr i ddangos amlochredd a grym anhygoel yr offeryn. Mae&#8217;n wych o beth fod gr\u0175p poblogaidd fel Ensemble Cymru wedi penderfynu cynnwys y delyn yn eu rhaglenni, ac rwy&#8217;n hynod falch o fod yn rhan o&#8217;r cynllun yma!&#8221;\u00a0<\/em><\/p>\n<p>Wrth edrych ar brojectau gwaith blaenorol Anne, mae&#8217;n amlwg fod cerddoriaeth siambr yn agos iawn at ei chalon, a gellir olrhain gwreiddiau hynny&#8217;n \u00f4l i&#8217;w magwraeth yng Nghymru lle roedd yn perfformio&#8217;n rheolaidd gyda cherddorion ifanc eraill, fel yr eglura;\u00a0<em> &#8220;Roeddwn yn hynod lwcus i fod yn rhan o gr\u0175p o deuluoedd a oedd yn annog eu plant i chwarae mewn ensembles bychain.\u00a0 O gyfnod cynnar iawn roeddwn yn chwarae&#8217;n rheolaidd gyda phobl eraill o&#8217;m hoed ac roeddem yn ffodus hefyd fod gwyliau a chystadlaethau cerddorol rhagorol ar gael i ni (yn cynnwys yr Eisteddfodau a&#8217;r Wyl Cerdd Dant) lle gallem berfformio&#8217;n gyhoeddus a chael sylwadau adeiladol.\u00a0 Mae gen i ddyled fawr i&#8217;r profiadau cynnar ffurfiannol yma.&#8221;\u00a0\u00a0<\/em><\/p>\n<figure id=\"attachment_5217\" aria-describedby=\"caption-attachment-5217\" style=\"width: 214px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/07\/Anne-for-web.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-5217 size-medium\" src=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/07\/Anne-for-web-214x300.jpg\" alt=\"Anne for web\" width=\"214\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/07\/Anne-for-web-214x300.jpg 214w, https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/07\/Anne-for-web.jpg 1w\" sizes=\"auto, (max-width: 214px) 100vw, 214px\" \/><\/a><figcaption id=\"caption-attachment-5217\" class=\"wp-caption-text\">\u00a9Jerome Woodwark<\/figcaption><\/figure>\n<p>Gyda&#8217;r brwdfrydedd hwn dros gerddoriaeth siambr a&#8217;r delyn yr aeth Anne, ynghyd \u00e2&#8217;r Cyfarwyddwr Artistig, Peryn Clement-Evans, ati gyda&#8217;i gilydd i greu&#8217;r rhaglenni ar gyfer cyngherddau 2016-2017 Ensemble Cymru.\u00a0 Bydd teithiau&#8217;r hydref a&#8217;r gwanwyn, mewn tair rhan, yn ymdrin \u00e2 cherddoriaeth i&#8217;r delyn mewn ffordd amrywiol. Ar un llaw, bydd y cwmni&#8217;n archwilio cerddoriaeth o&#8217;r ugeinfed ganrif ar gyfer amrywiaeth o ensembles; ar y llaw arall, mae&#8217;r cerddorion wedi cymryd enghreifftiau o&#8217;r repertoire clasurol mwy traddodiadol a threfnu&#8217;r gweithiau fel eu bod yn cynnwys y delyn.\u00a0 Bydd paru CPE Bach \u00e2 <em>Dialogues <\/em>gan y cyfansoddwr Cymreig, Mervyn Burtch, yn sicr yn dangos ystod gallu a mynegiant y delyn.<\/p>\n<p>Meddai Anne wrth s\u00f4n am gyd-drefnu rhaglen y tymor newydd i Ensemble Cymru,<em> &#8220;Ein nod oedd dangos amrywiaeth o gyfuniadau offerynnol yn cynnwys y delyn (mae rhaglen yr hydref i delyn a chwythbrennau, ac ym Mai byddwn yn defnyddio cyfuniad mwy traddodiadol o ffliwt, telyn a fiola), a chreu rhaglenni sy&#8217;n amrywiol, yn adloniadol ac weithiau&#8217;n heriol &#8211; mae yna rywbeth i bawb!&#8221;<\/em><\/p>\n<p>Bydd tymor newydd Ensemble Cymru&#8217;n dechrau yn Pontio ym Mangor ar 30 Hydref, yna Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli ar 31 Hydref, Capel Gad yng Nghilcain ar 1 Tachwedd, Canolfan Ucheldre Caergybi ar 2 Tachwedd, Venue Cymru yn Llandudno ar 3 a 5 Tachwedd, Galeri Caernarfon ar 4 Tachwedd a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth ar 27 Tachwedd.\u00a0 Ewch i&#8217;n <a href=\"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/digwyddiadau\/\">tudalen ddigwyddiadau<\/a>\u00a0 i weld y manylion llawn.<\/p>\n<p>Anne yw&#8217;r cyntaf i dderbyn y Gadair Ryngwladol Gaynor Cemlyn-Jones i&#8217;r delyn.<\/p>\n<h4><\/h4>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wrth i Ensemble Cymru baratoi at ddechrau tymor newydd ddiwedd mis Hydref, mae Anne Denholm, sydd newydd ei phenodi&#8217;n brif delynores yr Ensemble, yn rhoi golwg i ni ar ei swyddogaeth fel Telynores Frenhinol, ei hoffter o gerddoriaeth siambr, a sut y gwnaeth tyfu i fyny yng Nghymru helpu i feithrin ei huchelgais i chwarae&#8217;r&hellip; <a class=\"more-link\" href=\"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2016\/10\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\/\">Parhau i ddarllen <span class=\"screen-reader-text\">Croesawu Anne Denholm, prif delynores newydd Ensemble Cymru<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"inline_featured_image":false,"footnotes":""},"categories":[658],"tags":[428,861,430],"class_list":["post-5466","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-creu-cerddoriaeth","tag-anne-denholm-2","tag-telyn","tag-telynor-brenhinol","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.5 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Croesawu Anne Denholm, prif delynores newydd Ensemble Cymru - Ensemble Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2016\/10\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Croesawu Anne Denholm, prif delynores newydd Ensemble Cymru - Ensemble Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Wrth i Ensemble Cymru baratoi at ddechrau tymor newydd ddiwedd mis Hydref, mae Anne Denholm, sydd newydd ei phenodi&#8217;n brif delynores yr Ensemble, yn rhoi golwg i ni ar ei swyddogaeth fel Telynores Frenhinol, ei hoffter o gerddoriaeth siambr, a sut y gwnaeth tyfu i fyny yng Nghymru helpu i feithrin ei huchelgais i chwarae&#8217;r&hellip; Parhau i ddarllen Croesawu Anne Denholm, prif delynores newydd Ensemble Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2016\/10\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ensemble Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/EnsCymru\/\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2016-10-27T15:06:33+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-10-19T11:47:00+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/04\/Anne-Denholm_credit-Timothy-Ellis-200x300.jpg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"KB\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@EnsCymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@EnsCymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"KB\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"5 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2016\\\/10\\\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2016\\\/10\\\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"KB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/4cd1d7a3d761b96bff1dc6fbf6105fa5\"},\"headline\":\"Croesawu Anne Denholm, prif delynores newydd Ensemble Cymru\",\"datePublished\":\"2016-10-27T15:06:33+00:00\",\"dateModified\":\"2021-10-19T11:47:00+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2016\\\/10\\\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\\\/\"},\"wordCount\":1064,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2016\\\/10\\\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/04\\\/Anne-Denholm_credit-Timothy-Ellis-200x300.jpg\",\"keywords\":[\"Anne Denholm\",\"telyn\",\"Telynor Brenhinol\"],\"articleSection\":[\"Creu Cerddoriaeth\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2016\\\/10\\\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2016\\\/10\\\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\\\/\",\"name\":\"Croesawu Anne Denholm, prif delynores newydd Ensemble Cymru - Ensemble Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2016\\\/10\\\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2016\\\/10\\\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/04\\\/Anne-Denholm_credit-Timothy-Ellis-200x300.jpg\",\"datePublished\":\"2016-10-27T15:06:33+00:00\",\"dateModified\":\"2021-10-19T11:47:00+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2016\\\/10\\\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2016\\\/10\\\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2016\\\/10\\\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/04\\\/Anne-Denholm_credit-Timothy-Ellis-200x300.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2016\\\/04\\\/Anne-Denholm_credit-Timothy-Ellis-200x300.jpg\"},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2016\\\/10\\\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Croesawu Anne Denholm, prif delynores newydd Ensemble Cymru\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Ensemble Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#organization\",\"name\":\"Ensemble Cymru\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/08\\\/2019-09-02EnsembleSquareLogo.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/08\\\/2019-09-02EnsembleSquareLogo.png\",\"width\":320,\"height\":320,\"caption\":\"Ensemble Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/EnsCymru\\\/\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/EnsCymru\",\"https:\\\/\\\/www.instagram.com\\\/enscymru\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/4cd1d7a3d761b96bff1dc6fbf6105fa5\",\"name\":\"KB\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/author\\\/kb\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Croesawu Anne Denholm, prif delynores newydd Ensemble Cymru - Ensemble Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2016\/10\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Croesawu Anne Denholm, prif delynores newydd Ensemble Cymru - Ensemble Cymru","og_description":"Wrth i Ensemble Cymru baratoi at ddechrau tymor newydd ddiwedd mis Hydref, mae Anne Denholm, sydd newydd ei phenodi&#8217;n brif delynores yr Ensemble, yn rhoi golwg i ni ar ei swyddogaeth fel Telynores Frenhinol, ei hoffter o gerddoriaeth siambr, a sut y gwnaeth tyfu i fyny yng Nghymru helpu i feithrin ei huchelgais i chwarae&#8217;r&hellip; Parhau i ddarllen Croesawu Anne Denholm, prif delynores newydd Ensemble Cymru","og_url":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2016\/10\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\/","og_site_name":"Ensemble Cymru","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/EnsCymru\/","article_published_time":"2016-10-27T15:06:33+00:00","article_modified_time":"2021-10-19T11:47:00+00:00","og_image":[{"url":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/04\/Anne-Denholm_credit-Timothy-Ellis-200x300.jpg","type":"","width":"","height":""}],"author":"KB","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@EnsCymru","twitter_site":"@EnsCymru","twitter_misc":{"Written by":"KB","Est. reading time":"5 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2016\/10\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2016\/10\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\/"},"author":{"name":"KB","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/4cd1d7a3d761b96bff1dc6fbf6105fa5"},"headline":"Croesawu Anne Denholm, prif delynores newydd Ensemble Cymru","datePublished":"2016-10-27T15:06:33+00:00","dateModified":"2021-10-19T11:47:00+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2016\/10\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\/"},"wordCount":1064,"publisher":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2016\/10\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/04\/Anne-Denholm_credit-Timothy-Ellis-200x300.jpg","keywords":["Anne Denholm","telyn","Telynor Brenhinol"],"articleSection":["Creu Cerddoriaeth"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2016\/10\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\/","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2016\/10\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\/","name":"Croesawu Anne Denholm, prif delynores newydd Ensemble Cymru - Ensemble Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2016\/10\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2016\/10\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/04\/Anne-Denholm_credit-Timothy-Ellis-200x300.jpg","datePublished":"2016-10-27T15:06:33+00:00","dateModified":"2021-10-19T11:47:00+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2016\/10\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2016\/10\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2016\/10\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\/#primaryimage","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/04\/Anne-Denholm_credit-Timothy-Ellis-200x300.jpg","contentUrl":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2016\/04\/Anne-Denholm_credit-Timothy-Ellis-200x300.jpg"},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2016\/10\/croesawu-anne-denholm-prif-delynores-newydd-ensemble-cymru\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Croesawu Anne Denholm, prif delynores newydd Ensemble Cymru"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/","name":"Ensemble Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#organization","name":"Ensemble Cymru","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/2019-09-02EnsembleSquareLogo.png","contentUrl":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/2019-09-02EnsembleSquareLogo.png","width":320,"height":320,"caption":"Ensemble Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/EnsCymru\/","https:\/\/x.com\/EnsCymru","https:\/\/www.instagram.com\/enscymru"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/4cd1d7a3d761b96bff1dc6fbf6105fa5","name":"KB","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/author\/kb\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5466","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=5466"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/5466\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=5466"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=5466"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=5466"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}