{"id":6727,"date":"2017-10-31T12:30:03","date_gmt":"2017-10-31T12:30:03","guid":{"rendered":"https:\/\/ensemble.cymru\/2017\/10\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\/"},"modified":"2021-10-19T12:16:44","modified_gmt":"2021-10-19T12:16:44","slug":"bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2017\/10\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\/","title":{"rendered":"Tudur Owen o BBC Radio Cymru i wynebu &#8216;Her Cerddoriaeth Siambr&#8217; Ensemble Cymru"},"content":{"rendered":"<h4>Fel rhan o raglen arbennig i Radio Cymru, bydd y digrifwr a&#8217;r cyflwynydd, Tudur Owen, yn wynebu un o heriau mwyaf ei yrfa pan fydd yn ymuno \u00e2 chwe cherddor proffesiynol Ensemble Cymru mewn perfformiad byw yn Pontio Bangor ar 12 Tachwedd.<\/h4>\n<p><!--more--><\/p>\n<figure id=\"attachment_6720\" aria-describedby=\"caption-attachment-6720\" style=\"width: 300px\" class=\"wp-caption alignright\"><a href=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Tudur-Owen_1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-6720\" src=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Tudur-Owen_1-683x1024.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"450\" srcset=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Tudur-Owen_1-683x1024.jpg 683w, https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Tudur-Owen_1-416x623.jpg 416w, https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Tudur-Owen_1-200x300.jpg 200w, https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Tudur-Owen_1-768x1151.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><figcaption id=\"caption-attachment-6720\" class=\"wp-caption-text\">Tudur Owen<\/figcaption><\/figure>\n<p>Bydd<strong> &#8216;Siwrnai Siambr Tudur Owen&#8217;\u00a0<\/strong>i&#8217;w darlledu ar Radio Cymru\u00a0<span id=\"ouHighlight__0_1TO0_1\" class=\"\">ar<\/span><span id=\"noHighlight_0.20023845006030183\">\u00a0<\/span><span id=\"ouHighlight__3_5TO3_3\">y<\/span><span id=\"noHighlight_0.9740985211823703\">\u00a0<\/span><span id=\"ouHighlight__17_21TO5_13\" class=\"\">dyddiadau<\/span><span id=\"noHighlight_0.6633987541003654\">\u00a0<\/span><span id=\"ouHighlight__7_15TO15_22\" class=\"\">canlynol:<\/span><\/p>\n<ul>\n<li><strong>Rhan 1<\/strong>: Dydd Llun 11 Rhagfyr, 12:30pm<\/li>\n<li><strong>Rhan 2<\/strong>: Dydd Llun 18 Rhagfyr, 12:30pm<\/li>\n<\/ul>\n<p>Caiff y ddwy raglen eu hailddarlledu ar \u0174yl San Steffan (26 Rhagfyr) rhwng 8pm a 9pm.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/ensemblecymru.cmail19.com\/t\/y-i-huuimk-l-yk\/\">Ewch i wefan Radio Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglenni.<\/a><\/p>\n<p>Fe wnaeth Ensemble Cymru, gr\u0175p cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, herio&#8217;r digrifwr a&#8217;r cyflwynydd Cymraeg adnabyddus i ddysgu darn o gerddoriaeth siambr ac yna&#8217;i berfformio&#8217;n fyw o flaen cynulleidfa.\u00a0 Fel un sydd bob amser yn mwynhau her, roedd Tudur Owen yn barod iawn i dderbyn ac yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf mae wedi cael cwrs carlam mewn cerddoriaeth siambr gan Dewi Ellis Jones, prif offerynnwr taro Ensemble Cymru.<\/p>\n<p>Gan ddisgrifio ei hun fel <em>&#8220;drymiwr amatur gydag &#8216;A&#8217; fawr iawn&#8221;<\/em>, mae Tudur yn cyfaddef ei fod wedi camu&#8217;n rhy bell y tro yma efallai, wrth iddo baratoi at ei ymddangosiad cyntaf fel offerynnwr taro cerddoriaeth siambr.<\/p>\n<p><em>&#8220;Fe ges fy synnu ei fod yn llawer mwy cymhleth nag yr oeddwn wedi&#8217;i ddychmygu oherwydd roedd yn faes newydd i mi.\u00a0 Dwi&#8217;n gyfarwydd \u00e2 barau amseriad 4 \/ 4 neu 3 \/ 4, ond yma roedd y barau i gyd o wahanol hyd, ac roeddwn yn meddwl bod rhywun yn gwneud hwyl am fy mhen.&#8221; eglurodd.<\/em><\/p>\n<p>Yn ffodus, roedd Dewi Ellis Jones o&#8217;r Ensemble wrth law i helpu Tudur gael pethau i drefn, <em>&#8220;Unwaith y dywedodd Dewi wrtha i ei bod yr un mor bwysig i wrando ar y gerddoriaeth ag ydyw i gyfri&#8217;r barau, fe syrthiodd y darnau i gyd i&#8217;w lle wedyn.&#8221;\u00a0<\/em><\/p>\n<p>Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans,\u00a0 ei fod wedi darganfod rhai pethau&#8217;n debyg rhwng cerddoriaeth siambr a chomedi wrth weithio gyda Tudur. Fel yr eglurodd, &#8220;Yr hyn sydd wedi bod yn ddiddorol yw canfod y tir cyffredin rhwng y ddwy ffurf ar gelfyddyd.\u00a0 Mae&#8217;r ddwy&#8217;n meithrin perthynas agos \u00e2&#8217;r gynulleidfa ac mae seibio ac amseru yn rhan allweddol o&#8217;r ddwy hefyd.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/BBC_RadioCymru_P_Cmyk.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-6722\" src=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/BBC_RadioCymru_P_Cmyk-300x127.jpg\" alt=\"\" width=\"200\" height=\"85\" srcset=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/BBC_RadioCymru_P_Cmyk-300x127.jpg 300w, https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/BBC_RadioCymru_P_Cmyk-416x176.jpg 416w, https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/BBC_RadioCymru_P_Cmyk.jpg 690w\" sizes=\"auto, (max-width: 200px) 100vw, 200px\" \/><\/a><em>&#8220;Mae wedi bod yn wych cael Tudur i mewn fel rhan o&#8217;r Ensemble a&#8217;i weld yn dod \u00e2 cherddoriaeth siambr i sylw ei gynulleidfa &#8211; mae&#8217;n golygu gobeithio ein bod yn ymestyn gafael cerddoriaeth siambr ymhellach a galluogi mwy o bobl i&#8217;w mwynhau.&#8221;<\/em><\/p>\n<p>Cyfaddefodd Tudur Owen, sy&#8217;n gyflwynydd ar Radio Cymru, nad oedd yn gwybod fawr ddim am gerddoriaeth siambr cyn dechrau ar y project hwn gydag Ensemble Cymru, sy&#8217;n rhan o raglen ar gyfer Radio Cymru sydd i&#8217;w darlledu yn Rhagfyr.\u00a0 Fodd bynnag, mae&#8217;r chwiw cerddoriaeth siambr wedi cydio ynddo ac mae&#8217;n awyddus nawr i fwy o bobl ei phrofi,<em> &#8220;Fel gydag unrhyw ffurf ar adloniant, os ydych yn gwerthfawrogi cerddoriaeth dda o ansawdd uchel, yna bydd gan gerddoriaeth siambr rywbeth at eich dant yn sicr,&#8221; meddai.\u00a0\u00a0<\/em><\/p>\n<p>Ar hyn o bryd mae Ensemble Cymru yn perfformio mewn gwahanol fannau ledled Cymru ar ei daith i ddathlu ei ben-blwydd yn 15 oed.\u00a0 Bydd Tudur Owen yn dod yn aelod er anrhydedd o&#8217;r Ensemble am un diwrnod yn unig pan fydd yn ymuno \u00e2&#8217;r cerddorion mewn cyngerdd preliwd yn Pontio, Bangor ddydd Sul 12 Tachwedd am 2:15pm cyn prif gyngerdd Ensemble Cymru am 3pm.\u00a0 Ceir mynediad am ddim i&#8217;r cyngerdd preliwd gyda thocyn i&#8217;r prif gyngerdd Ensemble Cymru.\u00a0\u00a0 Ewch i ein <a href=\"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/events\/anniversary-tour-pontio-bangor\/\">tudalen digywddiadau<\/a> i gael mwy o wybodaeth neu cysylltwch \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.pontio.co.uk\/Online\/\">www.pontio.co.uk<\/a> 01248 38 28 28 i archebu tocynnau.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/player.vimeo.com\/video\/240646017\" width=\"640\" height=\"360\" frameborder=\"0\" allowfullscreen=\"allowfullscreen\"><\/iframe><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fel rhan o raglen arbennig i Radio Cymru, bydd y digrifwr a&#8217;r cyflwynydd, Tudur Owen, yn wynebu un o heriau mwyaf ei yrfa pan fydd yn ymuno \u00e2 chwe cherddor proffesiynol Ensemble Cymru mewn perfformiad byw yn Pontio Bangor ar 12 Tachwedd.<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":6724,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"inline_featured_image":false,"footnotes":""},"categories":[658,662],"tags":[],"class_list":["post-6727","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-creu-cerddoriaeth","category-cymuned","entry"],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.6 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Tudur Owen o BBC Radio Cymru i wynebu &#039;Her Cerddoriaeth Siambr&#039; Ensemble Cymru - Ensemble Cymru<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2017\/10\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"en_US\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Tudur Owen o BBC Radio Cymru i wynebu &#039;Her Cerddoriaeth Siambr&#039; Ensemble Cymru - Ensemble Cymru\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Fel rhan o raglen arbennig i Radio Cymru, bydd y digrifwr a&#8217;r cyflwynydd, Tudur Owen, yn wynebu un o heriau mwyaf ei yrfa pan fydd yn ymuno \u00e2 chwe cherddor proffesiynol Ensemble Cymru mewn perfformiad byw yn Pontio Bangor ar 12 Tachwedd.\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2017\/10\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Ensemble Cymru\" \/>\n<meta property=\"article:publisher\" content=\"https:\/\/www.facebook.com\/EnsCymru\/\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2017-10-31T12:30:03+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2021-10-19T12:16:44+00:00\" \/>\n<meta property=\"og:image\" content=\"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Dewi-Ellis-Jones_and_Tudur-Owen-feature-pic.jpg\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:width\" content=\"750\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:height\" content=\"560\" \/>\n\t<meta property=\"og:image:type\" content=\"image\/jpeg\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"KB\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:creator\" content=\"@EnsCymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:site\" content=\"@EnsCymru\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"KB\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"3 munud\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2017\\\/10\\\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2017\\\/10\\\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"KB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/38c6a7b75f1751c61c4df5b085161e91\"},\"headline\":\"Tudur Owen o BBC Radio Cymru i wynebu &#8216;Her Cerddoriaeth Siambr&#8217; Ensemble Cymru\",\"datePublished\":\"2017-10-31T12:30:03+00:00\",\"dateModified\":\"2021-10-19T12:16:44+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2017\\\/10\\\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\\\/\"},\"wordCount\":632,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#organization\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2017\\\/10\\\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2017\\\/10\\\/Dewi-Ellis-Jones_and_Tudur-Owen-feature-pic.jpg\",\"articleSection\":[\"Creu Cerddoriaeth\",\"Cymuned\"],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2017\\\/10\\\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2017\\\/10\\\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\\\/\",\"name\":\"Tudur Owen o BBC Radio Cymru i wynebu 'Her Cerddoriaeth Siambr' Ensemble Cymru - Ensemble Cymru\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#website\"},\"primaryImageOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2017\\\/10\\\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\\\/#primaryimage\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2017\\\/10\\\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\\\/#primaryimage\"},\"thumbnailUrl\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2017\\\/10\\\/Dewi-Ellis-Jones_and_Tudur-Owen-feature-pic.jpg\",\"datePublished\":\"2017-10-31T12:30:03+00:00\",\"dateModified\":\"2021-10-19T12:16:44+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2017\\\/10\\\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2017\\\/10\\\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\\\/\"]}]},{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2017\\\/10\\\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\\\/#primaryimage\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2017\\\/10\\\/Dewi-Ellis-Jones_and_Tudur-Owen-feature-pic.jpg\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2017\\\/10\\\/Dewi-Ellis-Jones_and_Tudur-Owen-feature-pic.jpg\",\"width\":750,\"height\":560},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/2017\\\/10\\\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Home\",\"item\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Tudur Owen o BBC Radio Cymru i wynebu &#8216;Her Cerddoriaeth Siambr&#8217; Ensemble Cymru\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Ensemble Cymru\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#organization\",\"name\":\"Ensemble Cymru\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/08\\\/2019-09-02EnsembleSquareLogo.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2024\\\/08\\\/2019-09-02EnsembleSquareLogo.png\",\"width\":320,\"height\":320,\"caption\":\"Ensemble Cymru\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"},\"sameAs\":[\"https:\\\/\\\/www.facebook.com\\\/EnsCymru\\\/\",\"https:\\\/\\\/x.com\\\/EnsCymru\",\"https:\\\/\\\/www.instagram.com\\\/enscymru\"]},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/38c6a7b75f1751c61c4df5b085161e91\",\"name\":\"KB\",\"url\":\"https:\\\/\\\/ensemble.cymru\\\/cy\\\/author\\\/kb\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Tudur Owen o BBC Radio Cymru i wynebu 'Her Cerddoriaeth Siambr' Ensemble Cymru - Ensemble Cymru","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2017\/10\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\/","og_locale":"en_US","og_type":"article","og_title":"Tudur Owen o BBC Radio Cymru i wynebu 'Her Cerddoriaeth Siambr' Ensemble Cymru - Ensemble Cymru","og_description":"Fel rhan o raglen arbennig i Radio Cymru, bydd y digrifwr a&#8217;r cyflwynydd, Tudur Owen, yn wynebu un o heriau mwyaf ei yrfa pan fydd yn ymuno \u00e2 chwe cherddor proffesiynol Ensemble Cymru mewn perfformiad byw yn Pontio Bangor ar 12 Tachwedd.","og_url":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2017\/10\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\/","og_site_name":"Ensemble Cymru","article_publisher":"https:\/\/www.facebook.com\/EnsCymru\/","article_published_time":"2017-10-31T12:30:03+00:00","article_modified_time":"2021-10-19T12:16:44+00:00","og_image":[{"width":750,"height":560,"url":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Dewi-Ellis-Jones_and_Tudur-Owen-feature-pic.jpg","type":"image\/jpeg"}],"author":"KB","twitter_card":"summary_large_image","twitter_creator":"@EnsCymru","twitter_site":"@EnsCymru","twitter_misc":{"Written by":"KB","Est. reading time":"3 munud"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2017\/10\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2017\/10\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\/"},"author":{"name":"KB","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/38c6a7b75f1751c61c4df5b085161e91"},"headline":"Tudur Owen o BBC Radio Cymru i wynebu &#8216;Her Cerddoriaeth Siambr&#8217; Ensemble Cymru","datePublished":"2017-10-31T12:30:03+00:00","dateModified":"2021-10-19T12:16:44+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2017\/10\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\/"},"wordCount":632,"publisher":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#organization"},"image":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2017\/10\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Dewi-Ellis-Jones_and_Tudur-Owen-feature-pic.jpg","articleSection":["Creu Cerddoriaeth","Cymuned"],"inLanguage":"cy"},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2017\/10\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\/","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2017\/10\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\/","name":"Tudur Owen o BBC Radio Cymru i wynebu 'Her Cerddoriaeth Siambr' Ensemble Cymru - Ensemble Cymru","isPartOf":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#website"},"primaryImageOfPage":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2017\/10\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\/#primaryimage"},"image":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2017\/10\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\/#primaryimage"},"thumbnailUrl":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Dewi-Ellis-Jones_and_Tudur-Owen-feature-pic.jpg","datePublished":"2017-10-31T12:30:03+00:00","dateModified":"2021-10-19T12:16:44+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2017\/10\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2017\/10\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\/"]}]},{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2017\/10\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\/#primaryimage","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Dewi-Ellis-Jones_and_Tudur-Owen-feature-pic.jpg","contentUrl":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2017\/10\/Dewi-Ellis-Jones_and_Tudur-Owen-feature-pic.jpg","width":750,"height":560},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/2017\/10\/bbc-radio-cymrus-tudur-owen-face-ensemble-cymrus-chamber-music-challenge\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Home","item":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Tudur Owen o BBC Radio Cymru i wynebu &#8216;Her Cerddoriaeth Siambr&#8217; Ensemble Cymru"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#website","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/","name":"Ensemble Cymru","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#organization","name":"Ensemble Cymru","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/2019-09-02EnsembleSquareLogo.png","contentUrl":"https:\/\/ensemble.cymru\/wp-content\/uploads\/2024\/08\/2019-09-02EnsembleSquareLogo.png","width":320,"height":320,"caption":"Ensemble Cymru"},"image":{"@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"},"sameAs":["https:\/\/www.facebook.com\/EnsCymru\/","https:\/\/x.com\/EnsCymru","https:\/\/www.instagram.com\/enscymru"]},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/#\/schema\/person\/38c6a7b75f1751c61c4df5b085161e91","name":"KB","url":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/author\/kb\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6727","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6727"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6727\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6724"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6727"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6727"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/ensemble.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6727"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}