Yr hyn a wnawn
Creu cerddoriaeth / Cysylltu cymunedau / Datblygu doniau / Ysbrydoli plant / Gwneud gwahaniaeth / Cyd-greu a chydweithio
Elusen ydym sy’n rhannu ein brwdfrydedd dros gerddoriaeth ledled Cymru. Gwyddom fod cerddoriaeth a chreadigrwydd yn hanfodol i iechyd a lles pawb. Mae angen ennyd o lawenydd ac ysbrydoliaeth ar bawb.
Yn sicr taflodd y pandemig oleuni ar anghyfiawnder cymdeithasol. Mae tirwedd a daearyddiaeth ein gwlad hyfryd yn golygu bod cymaint o bobl yn byw mewn lleoedd gwledig ac ynysig. Mae lle rydyn ni’n byw gall effeithio ar y cyfleoedd sydd gennym. Rydyn am i bawb gael cyfle i gyrchu, mwynhau a dysgu o greu cerddoriaeth anhygoel.
Rydym yn gwneud hyn trwy ystod o waith:
- Gwneud cerddoriaeth
- Cysylltu cymunedau
- Datblygu doniau
- Ysbrydoli plant
- Gwneud gwahaniaeth
- Cyd-greu a chydweithio
Diolch yn fawr iawn i chi am berfformiad gwych yn Ward Aberconwy a Beuno yn Ysbyty Llandudno. Roedd yr hyfrydwch pur ar wynebau’r cleifion yn dweud llawer mwy na all geiriau eu cyfleu. Rwy’n gwybod eich bod wedi gweld dagrau yn llygaid rhai cleifion wrth i’r gerddoriaeth ddwyn atgofion yn ôl iddyn nhw. Roedd pawb ar y wardiau wedi mwynhau’r cyngerdd bychan yn fawr iawn, iawn.
Angela Hopkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio
Rydym yn teimlo’n gyffrous am yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd!