Creu cerddoriaeth

Rydyn ni’n angerddol am gerddoriaeth ac wrth ein bodd yn ei rhannu gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru. Ein cariad cyntaf yw Cerddoriaeth Siambr. Credwn fod gan ensemblau bach a dynnir o gronfa o gerddorion ymroddedig ac angerddol y pŵer i greu cerddoriaeth sy’n hynod agos atoch, yn gain a hardd.

O weithio mewn ensemble bach rhaid gwrando’n astud iawn, a rhaid wrth ymddiriedaeth a hyder eithriadol. Rydym yn gwrando mwy, yn cysylltu mwy, yn rhannu mwy. Mae hefyd yn galluogi pob cerddor i ddisgleirio, datblygu a thyfu gyda repertoire heriol a pherfformiadau unigol.

Pan nad ydym yn perfformio Cerddoriaeth Siambr, rydym yn cyfansoddi, cyd-greu a chydweithio i greu cerddoriaeth newydd. Rydym wrth ein bodd yn creu cerddoriaeth sy’n dathlu ac yn hybu lleisiau, straeon a thirweddau Cymru.

Rydym wedi dechrau archwilio genres newydd a phartneriaethau newydd. Rydym yn cydweithio ac yn cyd-greu gyda cherddorion jazz, dawnswyr a chantorion.

Dros y blynyddoedd bu cymaint o uchafbwyntiau. Buom yn dathlu talent Cymru, gan berfformio gydag artistiaid o fri rhyngwladol, gan gynnwys y telynorion Catrin Finch, Isabelle Moretti a Deborah Henson-Conant;

y sielydd Paul Watkins (Pedwarawd Emerson); yr actor Rhys Ifans; a’r gantores opera, Rebecca Evans.

Buom yn dathlu treftadaeth Cymru, gan gydweithio gydag OPRA Cymru ar opera Gymraeg newydd sbon gan Gareth Glyn a Mererid Hopwood.

Rhoesom sylw i ddoniau cartref dramor gyda pherfformiadau yn y Swistir, Shanghai a Hong Kong.

Byddwn yn parhau i gydweithio, cysylltu a rhannu ein cerddoriaeth, ein treftadaeth a’n hangerdd gyda chymunedau ledled Cymru. Os oes gennych chi syniad neu broject yr hoffech chi ei archwilio gyda ni, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych. Cysylltwch â ni.

Gallwch hefyd edrych ar ein perfformiadau yn y gorffennol yn ein harchif ddigwyddiadau.