Cysylltu cymunedau

Gweithiwn gyda theuluoedd, plant, grwpiau cymunedol, myfyrwyr ac ysgolion i arbrofi, creu, dysgu a chael hwyl gyda cherddoriaeth. Rydyn ni am i’n cerddoriaeth greu cyfleoedd i bobl ddod ynghyd a dathlu straeon, diwylliant a threftadaeth Cymru.

Rydym wedi cwrdd â phobl anhygoel a chlywed straeon ysbrydoledig a theimladwy a dyma ychydig o’r uchafbwyntiau.

Rydyn ni’n gweithio gyda theuluoedd sy’n byw gydag awtistiaeth ar Ynys Môn. Yn aml iawn mae perfformiadau, cyngherddau neu ganolfannau’n teimlo’n ddieithr, yn anodd ac yn heriol. Mae’r amgylchedd neu’r lleoliad yn eu cau allan ac nid yw’n diwallu anghenion eu teuluoedd. Rydym wedi ymrwymo i gyd-greu cerddoriaeth a phrofiadau i’r teuluoedd hynny i hybu eu lles a’u hymdeimlad o gysylltiad.

Buom yn gweithio gyda Chanolfan y Cyn-filwyr Dall yng ngogledd Cymru. Yn Llandudno mae’r ganolfan ac maent yn helpu’r cyn-filwyr gyda hyfforddiant, adferiad a seibiant. Un o’r uchafbwyntiau mwyaf oedd perfformiad o Bugeilio’r Gwenith Gwyn gan John Metcalf. Canwyd yr alaw gyfarwydd gan lawer yn y gynulleidfa. Ennyd hynod ddyrchafol.

Buom yn perfformio mewn ysbytai ac ysgolion a buom yn gweithio gyda sefydliadau fel Cymdeithas Alzheimer Cymru yn Aberystwyth yn rhannu cerddoriaeth siambr â phobl, eu teuluoedd a’u gofalwyr na allant fynd i gyngherddau mewn mannau lle maen nhw’n teimlo’n ddiogel ac sy’n eu croesawu.

Buom yn cynnal digwyddiadau cymunedol, a ddaeth â grwpiau cymunedol, corau, cantorion lleol a cherddorion ynghyd i gymryd rhan mewn penwythnos o greu cerddoriaeth. Yn ystod ein dathliad o JS Bach gwelwyd mwy na 100 o bobl yn dod ynghyd i gymryd rhan a rhannu llawenydd cerddoriaeth.