Clarinét: Peryn Clement-Evans

Peryn Clement-Evans yw prif glarinetydd a Chyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru. Bu Peryn yn fyfyriwr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd (Manceinion) ac wedi hynny yn Rotterdam’s Conservatorium gyda’r unawdydd rhyngwladol o wlad Belg, Walter Boeijkens.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, enillodd ysgoloriaethau i fynychu’r American Conservatoire  yn Fontainebleau yn Ffrainc.

Mae Peryn wedi cynnal perfformiadau cyntaf nifer o ddarnau i’r clarinét a’r piano gan gyfansoddwyr o Gymru, megis Hoddinott, Jeffrey Lewis, Christopher Painter a John Metcalf, am y tro cyntaf. Yn 2008, cafodd wobr Leo Abse and Cohen gan Urdd Cerddoriaeth Cymru am ei wasanaeth i gerddoriaeth.

Perfformiodd fel prif clarinetydd gyda nifer o gerddorfeydd gan gynnwys Northern Ballet, Manchester Camerata, Orquesta Sinfonica de Galicia (Sbaen) a London City Opera (Taith UDA 2001).

Ganwyd Peryn yn Lerpwl yn 1968.  Mae’n briod gyda phedwar o blant ac yn byw ym Mangor, gogledd Cymru.

Gwyliwch Peryn yn perfformio gyda’r Ensemble Cymru