Telerau ac amodau

Mae’r telerau ac amodau canlynol yn berthnasol i docynnau ar gyfer digwyddiadau Ensemble Cymru (EC):

  • Ni fydd unrhyw docynnau yn cael eu cyfnewid nac arian yn cael ei ad-dalu oni bai y diddymir y digwyddiad.
  • Os diddymir y perfformiad, ni fydd EC yn agored i gostau teithio neu llety ychwanegol.
  • Bydd ail-werthu er elw neu ennill masnachol yn dirymu’r tocyn.
  • Gwiriwch yn ofalus y lleoliad, dyddiad ac amser sydd wedi’i brintio ar eich tocyn gan nad oes modd cywiro camgymeriad ar ôl derbyn cadarnhad o’r archeb.
  • Mae EC yn cadw’r hawl i newid y rhaglen neu’r artistiaid heb rybudd. Yn yr achosion hyn, nid oes unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu tocyn neu gyfnewid tocyn am berfformiad arall.
  • Ni fydd pobl sy’n hwyr yn cael dod i mewn nes bydd toriad addas neu egwyl yn y perfformiad. Efallai y bydd hyn yn golygu aros hyd at yr egwyl.
  • Mae EC yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i ddeiliaid tocynnau i’w ddigwyddiad.
  • Oni ddatganir fel arall, ni chaniateir recordio unrhyw elfen o’r perfformiad. Os gwelwch yn dda, gofynnir i chi barchu hawliau’r perfformwyr a’r cyfansoddwyr yn eu gwaith.
  • Ni chaniateir camerâu, dyfeisiadau recordio, gwydrau na llestri yn yr awditoriwm
  • Ni ellir anfon tocynnau eraill i ddigwyddiadau yn gyfnewid am rai sydd wedi mynd ar goll
  • Yn achlysurol caiff perfformiad neu ardaloedd cyhoeddus mewn lleoliad ei ffilmio, neu recordio neu caiff lluniau eu tynnu ohonynt. Mae prynu tocyn yn cadarnhau eich caniatâd i’r ffilmio, recordio sain neu/a ffotograffiaeth o’ch hun fel aelod o’r gynulleidfa gan gynnwys darllediadau/cyhoeddiad dilynol.
  • Mae rhaid diffodd ffonau symudol drwy’r amser tra eich bod chi yn yr awditoriwm.
  • Cedwir y hawl gan EC i dynnu unrhyw ostyngiad / consesiwn yn ôl ar unrhyw adeg heb rybudd.

Sylwer os gwelwch yn dda, efallai bydd gan leoliadau delerau ac amodau yn ychwanegol i’r hyn uchod.

Cwynion

Cyfeiriwch gwynion at y Prif Weithredwr, Peryn Clement-Evans yn ysgrifenedig drwy ebost neu bost:

Cyfeiriad: Peryn Clement-Evans, Ensemble Cymru, Ystafell 346, Prif Adeilad y Brifysgol, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, BANGOR. LL57 2DG

Ebost: post(at)ensemble.cymru

Rydym yn anelu at gydnabod cwynion o fewn 7 diwrnod gweithio ac yn ymateb o fewn 14 diwrnod.

Cynhigion Arbennig:

O bryd i’w gilydd mae Ensemble Cymru yn hyrwyddo cynhigion arbennig yn ôl y telerau ac amodau safonol canlynol:

  • Ni chaiff cynhigion/gostyngiadau eu defnyddio ar gyfer tocynnau wedi’i brynu yn barod.
  • Ni chaiff cynhigion / gostyngiadau eu defnyddio yn ogystal ag unrhyw gynhigion neu ostyngiadau eraill.
  • Cedwir y hawl gan EC i dynnu unrhyw gynnig / ostyngiad ar unrhyw adeg yn ôl heb rybudd.

Er mwyn ymuno â rhestr bostio Ensemble Cymru ac i fod yn gymwys ar gyfer cynhigion arbennig detholedig cofrestrwch eich cyfeiriad e-bost ar safle we Ensemble Cymru os gwelwch yn dda. www.ensemble.cymru