Posted on

Radio Ensemble Cymru

Rhaglen gan gerddor Ensemble Cymru a phlant Ysgol Tudno yn hyrwyddo lles drwy gerddoriaeth. Roedd y Prosiect yma yn rhan o “Cymerwch Ran” yn ŵyl flynyddol, gan Venue Cymru, ar gyfer plant 0 i 18 oed a’u teuluoedd. Gyda chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Gelfyddydau Conwy

Together with the Ensemble Cymru musicians, the children created the material for radio shows on the community radio ‘Radio Ensemble Cymru’. Each day they work with a different musician and present a different animal and musical instrument. Through devising and recording content they learnt digital and collaborative skills as well as building confidence and improving their communication and language.

Darllenwch fwy Radio Ensemble Cymru
Posted on

Peilot Gorsaf Radio Cymunedol

Breuddwyd Radio Ensemble yw y bydd yn cynnig llwyfan sydd wir ei hangen i Gerddorion, Cyfansoddwyr, Ymarferwyr, Grwpiau Perfformio ac unigolion ac yn cynnig hwb gymdeithasol ddwyieithog sydd wir ei angen i’r gymuned.

Mae gorsafoedd radio cymunedol mewn lle unigryw yn eu cymunedau eu hunain i wneud gwahaniaeth i’r gymdeithas y maen nhw’n ei gwasanaethu. Bydd gorsaf radio cymunedol Ensemble yn mynd yn fyw fel ‘peilot’ ar 22 Mawrth 2021 yn Ysgol Tudno, gan alluogi dilynwyr Ensemble Cymru a theuluoedd Ysgol Tudno i fynd ar y tonfeddi ac i fanteisio ar y cyfleoedd cymdeithasol sy’n deillio o hynny.

Darllenwch fwy Peilot Gorsaf Radio Cymunedol
Posted on

Cerddoriaeth eich Milltir Sgwâr

Ydych chi’n gerddor, yn ganwr, yn gyfansoddwr opera, cerddoriaeth leisiol neu gerddoriaeth siambr? Hoffech chi wneud rhywbeth cadarnhaol yn ystod Covid-19 i gysylltu a chreu cerddoriaeth gyda’ch cymuned leol yng Nghymru? Allwch chi feddwl am brosiect newydd y gellir ei sefydlu a’i gyflwyno gyda grŵp cymunedol yn eich ardal leol?

Os mai ‘ydw, hoffwn a gallaf’ yw’r atebion i’r uchod, darllenwch ymlaen!

Darllenwch fwy Cerddoriaeth eich Milltir Sgwâr
Posted on

Taith gyffwrdd i Hen Filwyr Dall Llandudno

Un o uchabwyntiau ein taith yn yr hydref oedd ein hymweliad â Chanolfan Hen Filwyr Dall Llandudno yng ngogledd Cymru. Canolfan seibiant sy’n hyfforddi hen filwyr i ailsefydlu eu hunain yw’r ganolfan yn Llandudno, gan asesu a rhoi cymorth i hen filwyr â nam golwg. Adeiladwyd yr adeilad sydd ar gyrion Llandudno yn ôl ar dechrau’r ganrif ddiwethaf gan deulu’r Forresters fel cartref ymgeledd i fwynwyr siâl, ond bellach hon yw canolfan ddiweddaraf i hen filwyr dall yn Llandudno Blind Veterans UK.

Darllenwch fwy Taith gyffwrdd i Hen Filwyr Dall Llandudno