Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o gerddorion

Gyda chefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones, mae Ensemble Cymru yn cefnogi Rhaglen Cyflogadwyedd Bangor 100. Rydym wedi ein syfrdanu’n llwyr gan Tia a Harry – dau fyfyriwr cerdd o Brifysgol Bangor sydd wedi ymuno â ni am 6 wythnos, fel rhan o’r Rhaglen Cyflogadwyedd. Maent wedi bod yn ein helpu drwy hyrwyddo, perfformio a rheoli… Continue reading Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o gerddorion

Rhaglen Cyflogadwyedd Bangor 100 – Blog Tia

Tia Weston ydw i, ac rwy’n fyfyriwr Cerddoriaeth yn fy ail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor. Yno, rwy’n astudio ystod o fodiwlau gan gynnwys cyfansoddi a theori cerddoriaeth, ac mae fy mhrif ddiddordeb mewn perfformiad. Cefais fy ngeni yn Y Barri, De Cymru, a byw yno drwy gydol fy mywyd nes i mi ddewis symud i… Continue reading Rhaglen Cyflogadwyedd Bangor 100 – Blog Tia

Rhaglen Cyflogadwyedd Bangor 100 – Blog Harry

Harry Pascoe ydw i, ac rwy’n fyfyriwr Cerddoriaeth yn fy nhrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor. Fy mhrif offeryn yw’r Trombôn, fodd bynnag, rwyf wedi chwarae’r rhan fwyaf o offerynnau pres dros fy nghyfnod mewn ensemblau amrywiol. Dechreuais ar y cornet yn chwarae yn fy Mand Pres lleol yng Nghernyw pan ro’n i’n 8 oed, gan… Continue reading Rhaglen Cyflogadwyedd Bangor 100 – Blog Harry

Gareth Glyn yn sgwrsio am eu cerddoriaeth newydd cyn taith Ensemble Cymru

Mae’r cyfansoddwr o Ynys Môn, Gareth Glyn, wedi ysgrifennu darn o gerddoriaeth siambr newydd ar gyfer y prif ensemble cerddoriaeth siambr Cymru, Ensemble Cymru. Perfformir y cyfansoddiad newydd, ‘I’r Pedwar Gwynt’ am y tro cyntaf yn ystod taith Ensemble Cymru ym Mis Mai. Gweler rhestr lawn o ddyddiadau’r daith yma. Dyma Gareth Glyn yn sôn am… Continue reading Gareth Glyn yn sgwrsio am eu cerddoriaeth newydd cyn taith Ensemble Cymru

Rhoi amlygrwydd i gyfansoddwyr byw o Gymru

Y gwanwyn yma mae Ensemble Cymru a Chyfansoddwyr Cymru wedi ymuno i roi amlygrwydd i waith tri chyfansoddwr Cymreig.   Dewiswyd tri chyfansoddwr y perfformir eu gwaith mewn digwyddiadau arbennig cyn cyngherddau yn ystod taith genedlaethol Ensemble Cymru fis Mai eleni.

Ymunwch â ni am ChamberFest 2015

Rydym ar fin cynnal un o’r dathliadau mwyaf o gerddoriaeth siambr yng Nghymru, gŵyl ddeuddydd a alwn yn ChamberFest. Cerddorfa J.S. Bach yw thema’r digwyddiad sydd i’w gynnal yn 2015, gyda pherfformiadau a gweithgareddau mewn lleoliadau ar draws Bangor a Llandudno ar 20 a 21 Mawrth (ar 21 Mawrth y ganwyd Bach). Mae ein digwyddiad… Continue reading Ymunwch â ni am ChamberFest 2015

ChamberFest 2015: Bach

Rydym yn cynnal un o’r dathliadau mwyaf o gerddoriaeth siambr yng Nghymru a gelwir yr ŵyl yn ChamberFest. Y thema ar gyfer digwyddiad 2015 fydd cerddoriaeth J.S. Bach, a chynhelir y prif ddigwyddiad ar 20 a 21 Mawrth (21 Mawrth oedd pen-blwydd Bach). Y newyddion da yw bod y digwyddiad hwn yn agored i bawb! Rydym yn… Continue reading ChamberFest 2015: Bach