Cread y Triawd Cyrs

gan Jonathan Lyness


Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Margaret a Gwendoline Davies yn ôl o Ffrainc ac yn brysur yn sefydlu Neuadd Gregynog fel canolfan lewyrchus ar gyfer y celfyddydau perfformio; Margaret yn hongian paentiadau Ffrengig a gasglwyd yn ystod teithiau Ewropeaidd y chwiorydd cyn y rhyfel; a Gwendoline yn trefnu gwasanaethau cerddorol, cyngherddau corawl a soirées cerddoriaeth siambr ac yn chwarae yr organ hardd yn Ystafell Gerdd Gregynog.

Ar yr un pryd, roedd rhywbeth rhyfedd yn digwydd draw yn Ffrainc. Roedd y Triawd Cyrs yn cael ei ddyfeisio! Syniad cwbl Ffrengig ydoedd ac fe’i dilynodd, nid yn fuan ar ôl dyfeisio’r Pumawd Chwyth yn gynharach. Mae’n debyg ei bod yn anochel y dylai rhywun fod wedi meddwl amdano. Yn y pen draw!

Ange Flégier – dyfeisydd y Triawd Cyrs


Mewn gwirionedd, y cyfansoddwr a’r arlunydd Ffrengig Ange Flégier a ddyfeisiodd o. Heddiw, mae’r enw Flégier bron yn llwyr wedi’i anghofio, ond ym 1896, ar ôl rhoi cynnig ar wahanol gyfuniadau o offerynnau chwyth, ysgrifennodd Driawd ar gyfer Obo, Clarinét a Basŵn, y gwaith cyntaf y gwyddys amdano o’r math hwn. Ryw ddeg ar hugain o flynyddoedd yn ddiweddarach, ym Mharis yn y 1920au, ymddangosodd y Triawd Cyrs (Trio d’Anches) proffesiynol cyntaf – y ‘Trio d’Anches de Paris’ – yn cynnwys yr oboist Myrtile Morel, y clarinetydd Pierre Lefèbvre a’r baswnydd Fernand Oubradous. Yna, yn syth, daeth driawd Ffrengig arall i gystadlu yn ei erbyn– y ‘Trio d’Anches René Daraux’. Roedd y gystadleuaeth yn ffyrnig (!) wrth i’r ddau driawd ymladd i sicrhau’r comisiynau gorau gan gyfansoddwyr pennaf Ffrainc.

Y canlyniad yw can mlynedd o weithiau anhygoel i’r grŵp offerynnol hwn. Mae pâr o gyngherddau’r mis hwn, rhan o Gyfres Ystafell Gerdd Ensemble Cymru, yn cynnwys Triawd Cyrs mewnol Ensemble Cymru – yr oböydd, Huw Clement-Evans, y clarinetydd Christopher Goodman a’r baswnydd Alanna Pennar-Macfarlane. Byddan nhw’n perfformio dau waith Ffrengig o ganol y 1930au, ar adeg pan oedd Gŵyl Gerddoriaeth Gregynog ar ei hanterth, a brwdfrydedd am y Triawd Cyrs yn Ffrainc allan o reolaeth, a dweud y gwir! Cyfansoddodd Jacques Ibert ei Cinq Pièces (Pump Darn) ym 1935, a chreodd Darius Milhaud ei Suite d’après Corrette ym 1937 gan ddefnyddio ei gerddoriaeth achlysurol ei hun ar gyfer cynhyrchiad ym Mharis o Romeo a Juliet. Mae’r ddau waith yn defnyddio arddull neo-glasurol, nodwedd boblogaidd yn Ffrainc (meddyliwch am Le Tombeau de Couperin enwog Ravel). Mae gan y ddau waith nifer o symudiadau byr (rhai yn para llai na munud) yn amrywio o ddawnsfeydd bywiog i andantes myfyriol; ac mae’r ddau waith yn cynnwys cwcw!

Ni lwyddodd y Triawd Cyrs erioed i ffynnu ym Mhrydain yn yr 20fed ganrif, er ysgrifennwyd un gan y cyfansoddwr enwog o Loegr, Gordon Jacob. Roedd Gordon Jacob, Darius Milhaud a Jacques Ibert bron yn union yn gyfoedion, er bod y Triawd gan Jacob yn ôl pob tebyg wedi cyrraedd yn ddiweddarach (nid yw ei ddyddiad yn hysbys). Fel ei ragflaenwyr Ffrengig mae ganddo deimlad llawen, tebyg i ddawns gyda chyfeiriad at arddulliau cynharach. Cyfansoddodd y gyfansoddwraig Brydeinig Cecilia McDowall, a aned ym 1951 ac sy’n dal i fod gyda ni, ei Century Dances yn 2005. Gyda nhw mae hi’n edrych yn ôl dros amser o’r 18fed ganrif hyd heddiw, gyda dawnsfeydd i gynrychioli pob oes – Allemande baróc, Minuet, Mazurka Pwylaidd a Tango i orffen!

Cerddorion

Christopher Goodman – clarinét
Huw Clement-Evans – obo
Alanna Pennar-Macfarlane – basŵn

Rhaglen

  • Jacques Ibert – Cinq Pièces ar gyfer Obo, Clarinét a Basŵn (1935) 8’
  • Darius Milhaud – Suite d’après Corrette ar gyfer Obo, Clarinét a Basŵn (1937) 9’
  • Gordon Jacob – Triawd ar gyfer Obo, Clarinét a Basŵn 10’
  • Cecilia McDowall – Century Dances ar gyfer Obo, Clarinét a Basŵn (2005) 12’

Cysylltiadau