Darganfod Cerddoriaeth Siambr

I ddweud diolch i ffrindiau ac aelodau gwerthfawr Ensemble Cymru, rydym wedi sefydlu Darganfod Cerddoriaeth Siambr, rhan newydd o’n gwefan lle byddwch yn dod o hyd i gynnwys gwell, ffeithiau cyffrous a straeon anhygoel yn arbennig i chi.

Yr Ystafell Gerdd

Darllenwch am y gerddoriaeth a’r cyfansoddwyr sy’n rhan o’n cyfres fisol o gyngherddau:

Tymor Yr Ystafell Gerdd 2026 – 2027

Croeso i Dymor yr Ystafell Gerdd 2026-27 Ensemble Cymru a chyfoeth o gerddoriaeth siambr arbennig ar gyfer ein cynulleidfaoedd ffyddlon ar draws canolbarth a gogledd Cymru. Dim ond pedair rhaglen y tro hwn, ond gyda mwy o berfformiadau a mwy o leoliadau dros bedwar penwythnos hir, pob un yn cynnwys rhywbeth at ddant pawb! … darllenwch mwy

Mehefin 2026

Ymateb i’r her
Wrth feddwl am ddeuawd ffidil a soddgrwth, y gwaith sy’n dod i fy meddwl yn gyntaf yw’r Double Concerto in A minor o waith Brahms, sef ei waith cerddorfaol olaf, a gyfansoddwyd yn 1887. Er bod gan y ddeuawd ffidil/soddgrwth ei repertoire ei hun, heb fod angen cerddorfa o gwbl, nid yw’r repertoire mor eang ac y gallai rhywun ei ddisgwyl … darllenwch mwy

Mai 2026

“Seasons of mists and mellow fruitfulness”
Rwyf bob amser yn meddwl am y clarinét fel offeryn hydrefol. Mae’n fy atgoffa o’r gerdd fendigedig gan John Keats,
To Autumn, a ysgrifennwyd tuag at ddiwedd ei oes, gyda’i linellau agoriadol “Season of mists and mellow fruitfulness, Close bosom-friend of the maturing sun” … darllenwch mwy

Ebrill 2026

Dau yn well na thri
Tyfais i fyny gyda dau frawd hŷn; roedd un yn chwarae’r ffidil, a’r llall yn chwarae’r fiola a’r ffidil, ac roeddent yn hoff o fysgio! Roeddent yn mynd ar eu taith yn ystod yr haf gyda’u hofferynnau, yn heicio o gwmpas Ewrop mewn trefi a dinasoedd…. darllenwch mwy

Marwth 2026

If music be the food of love, play on
Mae rhoddion cerddorol, gan gyfansoddwyr i’w hanwyliaid, yn dipyn o beth. Creodd Grieg, Strauss, Mahler a Schumann rai, a rhoddodd Elgar ei “Salut d’Amour” (a berfformiwyd y llynedd fel rhan o’r gyfres gerddoriaeth hon) yn anrheg dyweddïo i’w wraig Alice. …. darllenwch mwy

Rhagfyr 2025

Y Ffrancwyr a’r Ffliwt
Mae’n debyg bod y gair ‘ffliwt‘ wedi dechrau fel y ferf Lladin ‘flare‘ sy’n golygu ‘chwythu‘, cyn cyrraedd yr Hen iaith Provençal fel ‘flaüt’ ac yna’r Hen Ffrangeg fel ‘fleüte’ neu ‘flahute’. Mae sillafiadau Saesneg Cynnar yn cynnwys ‘floute’ a ‘flowte’ …. darllenwch mwy

Tachwedd 2025

Cymheiriaid naturiol – llais a feiolín
Dywedir yn aml mai’r sielo yw’r offeryn gorau i efelychu’r llais dynol. Ac mai’r piano neu gitâr yw’r offerynnau gorau i gyfeilio i’r llais. Ond pa offeryn sydd orau i gyfathrebu â’r llais? …. darllenwch mwy

Hydref 2025

Mae un o’n hofferynnau ar goll!
Mae yna dri math gwahanol o driawd offerynnol. Mae modd cael dwy ffidil a fiola, neu ddwy ffidil a soddgrwth, neu ffidil, fiola a soddgrwth. Efallai y byddai sinig yn dweud fod triawd llinynnol yn swnio fel pedwarawd llinynnol gydag un o’i chwaraewyr ar goll ….. darllenwch mwy

Mehefin 2025

Ynghudd am 90 mlynedd!
“Y clarinét yw’r chwythbren gorau o ddigon”. Wel, dyna ddatganiad dadleuol, os bu un erioed! Rydw i’n siŵr y byddai’r clarinetydd Peryn Clement-Evans, sylfaenydd Ensemble Cymru, yn cytuno’n llwyr! ….. darllenwch mwy

Mai 2025

Cread y Triawd Cyrs
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Margaret a Gwendoline Davies yn ôl o Ffrainc ac yn brysur yn sefydlu Neuadd Gregynog fel canolfan lewyrchus ar gyfer y celfyddydau.… darllenwch mwy