Fiola: Sara Roberts

Mae Sara’n hanu o Lanfairpwll, Ynys Môn. Cafodd wersi feiolin gan Almut Bone a Margaret Scourse cyn dechrau dysgu’r fiola yn 15 mlwydd oed.

Astudiodd gyda Penny Stirling a Louise Lansdown yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion (RNCM).  Cwblhaodd Sara ei hastudiaethau ôl raddedig gydag Isabel Charisius yn yr Hochschule Musik yn Lucerne a chyda Gabor Takacs-Nagy yn Geneva.  Roedd yn un o sylfaenwyr Pedwarawd Benyounes, ac enillodd wobrau yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Pedwarawd Llinynnol Sandor Vegh yn Budapest.