Da boch chi!

Wedi 25 mlynedd, bydda i’n gadael Ensemble Cymru fel ei Brif Weithredwr a’i Sefydlwr ar ddiwedd Rhagfyr 2026.

Bydd yr Ensemble yn parhau o dan arweinyddiaeth ei dîm o gymdeithion artistig a’r rheolwr newydd, Vic MacManus.

Mae cymaint o atgofion; gormod i’w rhannu i gyd yma. Ymhlith y rhai a fydd yn aros gyda mi yw’r cyfnewid diwylliannol â’r Swistir; recordiad a darllediad o fersiwn Gymraeg o Pedr a’r Blaidd gan Prokofiev gyda Rhys Ifans, y cyfnod preswyl yn Ysgol Gynradd Tudno, ac yn fwy diweddar, ein teithiau blynyddol o gynyrchiadau, a gafodd glod mawr gan feirniaid, ar y cyd â’n ffrindiau yn Opera Canolbarth Cymru.

Fy mreuddwyd oedd grŵp o gerddorion clasurol Cymreig rhagorol yn gweini cynulleidfaoedd ar draws cefngwlad Cymru, gan hyrwyddo llais Cymreig mewn cerddoriaeth siambr yma ac yn rhyngwladol.

Yn aned dim, roeddwn am rannu fy nghariad at y celfyddyd anghyffredin hwn.

Diolch ichi fel cynulleidfa, rhoddwr, ariannwr, noddwr, gwirfoddolwr, cerddor, ymddiriedolwr a ffrind am eich haelioni. Rydych chi wedi cyfoethogi fy mywyd yn anfesuradwy.

Carwn ddymuno pob lwyddiant i’r tîm newydd wrth iddyn nhw ddechrau ar antur newydd i Ensemble Cymru.

Dymuniadau gorau,

Peryn Clement-Evans