Mae un o’n hofferynnau ar goll!

gan Jonathan Lyness
Curadur y Rhaglen




Mae yna dri math gwahanol o driawd offerynnol. Mae modd cael dwy ffidil a fiola, neu ddwy ffidil a soddgrwth, neu ffidil, fiola a soddgrwth. Efallai y byddai sinig yn dweud fod triawd llinynnol yn swnio fel pedwarawd llinynnol gydag un o’i chwaraewyr ar goll. Ac yndi, mae hyn yn digwydd weithiau! Clywais stori am soddgrwth pedwarawd llinynnol yn mynd yn sownd mewn maes awyr, a bu raid i ddwy ffidil a fiola gyflwyno’r cyngerdd. Mae dau brif waith ar gyfer y cyfuniad arbennig hwn, y ddau o Ddwyrain Ewrop: Terzetto Dvorak a Serenade Kodaly. Os yw’r chwaraewr fiola ar goll, yna mae hynny ar y cyfan yn cyfyngu rhywun i’r 18fed ganrif. Ond os yw’r ffidil ar goll, yna mae’r byd i gyd o’ch blaen, oherwydd mae’r triawd llinynnol safonol – ffidil, fiola a soddgrwth – yn hytrach na bod yn bedwarawd gyda ffidil ar goll, yn ensemble sefydledig gyda hanes cyfoethog ac amrywiaeth o repertoire sydd ar gael o’r 18fed ganrif hyd at y dydd heddiw.

Mervin Jules (1912-1994) Lithograph Trio




Fodd bynnag, mae un wlad sydd prin wedi cyfrannu i’r repertoire triawd. A’r wlad honno yw Prydain! Yn hanesyddol, nid oedd yn ymddangos bod cyfansoddwyr o Brydain yn hoffi triawdau llinynnol! Ceir rhai enghreifftiau gwasgaredig o’r 20fed ganrif, o Ernest Moeran i Lennox Berkeley, ond, ar gyfer y cyngerdd hwn, mae Ensemble Cymru wedi pellhau o repertoire Prydeinig, fel y mae, ac wedi edrych mewn mannau eraill, gan gychwyn â’r cyfansoddwyr mawr clasurol – Haydn, Mozart, Beethoven (a gyfansoddodd driawdau gwych) – cyn penderfynu yn y diwedd ar Franz Schubert. Nid yw triawd B-fflat 1816 Schubert wedi ei gwblhau – dim ond symudiad cyntaf a geir, ond mae ar raddfa ddigonol i sicrhau y gall serennu ar ben ei hun. Hynny, a’r ffaith ei fod yn waith cwbl athrylithgar – mor hyfryd a difyr ag unrhyw beth a gyfansoddodd Schubert. Os nad yw triawd B-fflat D471 Schubert yn rhoi gwên ar eich wyneb, wnaiff dim byd!

Jean Francaix




Ac felly, i ble nesaf? Yn gynharach eleni, esboniais mewn blog sut oedd y Ffrancwyr, yn ystod y 1920au a’r 1930au hwyr, wedi dyfeisio’r triawd pibau! Wel, mae’n ymddangos fod gan y Ffrancwyr ffetis am driawdau, oherwydd yn ystod y cyfnod hwn roeddent hwythau hefyd wrthi’n brysur yn cyfansoddi triawdau – ar gyfer ffidil, fiola a soddgrwth. Mae llwythi ohonynt, ac rydym wedi dewis un gan Jean Francaix. Roedd Francaix yn neo-glasurydd ymroddedig. Doedd digyweiredd a ‘gwamalrwydd’ rhai o’i gydwladwyr ddim at ei ddant ef. Mae ei gerddoriaeth yn nodweddiadol felodaidd, tonyddol, cellweirus, ysgafn a, gyda’i rhodres a’i ffurfiau dawns, yn ei wneud yn olynydd naturiol yr ugeinfed ganrif i Schubert a’i fath. Mae ei arddull i’w weld orau yn ei ‘Trio à cordes’ o 1933, sydd â phedwar symudiad byr: Allegretto, Scherzo, Andante a Rondo.




Yn olaf, mae Ensemble Cymru yn troi tuag at Ddwyrain Ewrop. Wedi’r cyfan, os gall Dwyrain Ewrop ddarparu’r ddau brif waith ar gyfer y ‘pedwarawd gyda’r soddgrwth ar goll’, yna oni ddylai hyn fod yn ffynhonnell dda i’r triawd llinynnol safonol? Wel, felly mae hi, gan gynnwys sawl un o ddegawd cyntaf yr ugeinfed ganrif. Rydym wedi dewis dau drysor bach persain a byr – yr Aubade gan y cyfansoddwr o Romania Georges Enescu, a’r Intermezzo gan y cyfansoddwr o Hwngari, Zoltan Kodaly. Gallai gwaith Kodaly, a ymddangosodd ddwy flynedd yn unig ar ôl un Enescu, fod wedi ei gyfansoddi fel darn cydymaith. Ac efallai mai dyna oedd y bwriad.

Cerddorion

  • Elenid Owen – feiolín
  • Oliver Wilson – fiola
  • Nia Harries – sielo

Rhaglen

  • George Enescu (1881 – 1955) Aubade, ar gyfer Triawd Llinynnol (1903), 5’
  • Zoltan Kodaly (1882 – 1967) Intermezzo, ar gyfer Triawd Llinynnol (1905), 5’
  • Franz Schubert (1797 – 1828) Triawd Llinynnol yn B fflat D 471 (1816), 11’
  • Jean Francaix (1912 – 1997) Triawd Llinynnol yn C fwyaf (1933), 13’

Digwyddiadau

  • 11.00yb, Sad 11 Hydref 2025, Yr Ystafell Gerdd, Gregynog
  • 4.00yp, Sad 11 Hydref 2025, Theatr y Ddraig, Barmouth
  • 4.00yp, Sul 12 Hydref 2025, Eglwys Santes Fair, Conwy
  • 11.00yb, Llun 13 Hydref 2025, Neuadd Dwyfor, Pwllheli