gan Jonathan Lyness
Curadur y Rhaglen
Tyfais i fyny gyda dau frawd hŷn; roedd un yn chwarae’r ffidil, a’r llall yn chwarae’r fiola a’r ffidil, ac roeddent yn hoff o fysgio! Roeddent yn mynd ar eu taith yn ystod yr haf gyda’u hofferynnau, yn heicio o gwmpas Ewrop mewn trefi a dinasoedd, o Baris i Florence, ble roeddent hefyd yn gwerthfawrogi’r gwaith celf. Mae’n debyg bod bysgio’n llai rheoledig bryd hynny nag ydyw erbyn hyn. Heddiw, os ydych chi’n dymuno rhoi tro ar fysgio o fewn y twnnel cerdded hirfaith rhwng y Tiwb yn Ne Kensington a’r amgueddfeydd, gan gasglu newid mân gan ymwelwyr neu’r promenadwyr ar y ffordd i Neuadd Albert, bydd angen trwydded arnoch gan Transport for London ynghyd ag Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus. Bydd angen i chi wario 50 ewro am drwydded yn Florence!

Rwyf wastad yn teimlo bod bysgiwr unigol yn edrych braidd yn unig, ond o leiaf nid oes rhaid iddynt rannu eu henillion. Gyda thri cherddor, mae’n teimlo’n rhy ffurfiol braidd. Ond mae rhywbeth reit hyfryd am ddiffyg difrifoldeb canfyddedig dau yn bysgio. Arferai fy mrodyr fysgio gyda dwy ffidil (ysgafnach i’w cario mae’n debyg), ond y cyfuniad ffidil / fiola yw’r gorau gen i, gyda’r ddau offeryn yn cynnig y balans cywir o ryngweithio, ymarferoldeb a phersonoliaeth!
Y cwpwl priod perffaith? Meddyliaf mae’n rhaid mai dyma deimlai Mozart, oherwydd fe gyfansoddodd nid yn unig y gampwaith concerto anhygoel y ‘Sinfonia Concertante’ ar gyfer y ffidil, fiola a cherddorfa, rhoddodd ei Duo in G major K423 i ni hefyd. Mae rhai darnau cerddoriaeth sydd wir yn codi eich calon ac mae Mozart’s Duo yn un ohonynt. Wedi ei ysgrifennu mewn ychydig ddyddiau yn haf 1783, mae’n berffaith ym mhob ffordd.
Wrth gamu ymlaen i’r ganrif ddiwethaf, ac un degawd yn arbennig, sef y 1940au, gwelwyd twf enfawr mewn deuawdau ar gyfer y ffidil / fiola! Roedd deuawdau wedi tyfu mewn poblogrwydd yn ystod blynyddoedd y rhyfel, gyda chyfansoddwyr yn edrych am fynegiant agos mewn gofodau bach gydag ychydig o gyfranogwyr. Bu symudiad tuag at neo-glasuriaeth, ac roedd dau lais yn cynnig posibiliadau gwrthbwyntiol oedd yn siwtio’r symudiad, gan edrych yn ôl i Mozart. Bu cynnydd ym mhoblogrwydd y fiola hefyd. Roedd llawer o gyfansoddwyr yn chwarae’r fiola yn ystod y cyfnod yma, fel yr oedd Mozart, a daeth llawer o chwaraewyr y fiola’n sêr mawr oedd angen cerddoriaeth newydd.
Roedd yn storm berffaith, ac ar gyfer y rhaglen hon fe glywn beth o waith York Bowen, a adnabyddir gan lawer fel y ‘Rachmaninov’ Saesneg, a llifeiriant mynegiannol dwfn gan y cyfansoddwr Tsiecaidd mawr Bohuslav Martinů gyda’i Three Madrigals, un darn o’i gynnyrch eang ar gyfer y fiola.


Ond ni fyddai rhaglen o’r fath yn gyflawn heb y darn hynod boblogaidd Passacaglia gan Johan Halvorsen o 1894. Dyma Y darn arddangos ar gyfer y ffidil / fiola sydd, ers dros 100 mlynedd, wedi bod yn rhan rheolaidd o repertoire yr ‘encore’, heb sôn am strydoedd dinasoedd hanesyddol Ewrop. Gwnaeth y mawrion Itzhak Perlman a Pinchas Zukerman fywoliaeth ohono bron
â bod! Ond pwy sydd eu hangen nhw pan mae gennym ein hynod wych Elenid Owen a Sara Roberts i ddangos i ni yr hyn sydd gan y darn hwn i’w gynnig!

Cerddorion
- Sara Roberts – fiola
- Elenid Owen – feiolín
Rhaglen
- Mozart (1756 – 1791) – Duo in G major K423 (1783), 16’
- Bohuslav Martinů (1890 – 1959) – Madrigal No. 2 (1947), 6½’
- Johan Halvorsen (1864 – 1935) – Passacaglia (1894), 7’
- York Bowen (1884 – 1961) – Duo No 1 ‘Poco Lento’ (1940s), 3½’
Digwyddiadau
- 11.00am, Sadwrn 11 Ebrill 2026, Yr Ystafell Gerdd, Neuadd Gregynog
- 4.00pm, Sul 12 Ebrill 2026, Eglwys Santes Fair, Conwy
- 11.00am, Llun 13 Ebrill 2026, Ystafell Gerddoriaeth , Neuadd Dwyfor

