Tymor Yr Ystafell Gerdd 2026 – 2027

gan Jonathan Lyness

Croeso i Dymor yr Ystafell Gerdd 2026-27 Ensemble Cymru a chyfoeth o gerddoriaeth siambr arbennig ar gyfer ein cynulleidfaoedd ffyddlon ar draws canolbarth a gogledd Cymru. Dim ond pedair rhaglen y tro hwn, ond gyda mwy o berfformiadau a mwy o leoliadau dros bedwar penwythnos hir, pob un yn cynnwys rhywbeth at ddant pawb!

Drwy gydol y ddau dymor diwethaf rydym wedi cynnwys gweithiau o Brydain a Ffrainc o ddechrau’r ugeinfed ganrif, cerddoriaeth a gyfansoddwyd tua’r un adeg ag y bu i’r Chwiorydd Davies ymgymryd â Gregynog a’i wneud yn hwb diwylliannol anhygoel ac unigryw. Rydym wedi archwilio nifer o gyfansoddwyr benywaidd gan gynnwys amryw o weithiau gan Rebecca Clarke, a’r tymor hwn rwy’n falch iawn y bydd Sara Roberts a Richard Ormrod yn cymryd arnynt gwaith enwocaf Clarke, sef Sonata’r Fiola o 1919, ar gyfer cyngherddau mis Tachwedd. Mae’n ddarn ysblennydd, yn hynod ramantaidd ac eto yn ddarn o’i amser; toreithiog, meddylgar, ac yn aml yn llawn virtuoso gyda gwawr gynnil o arddull Vaughan Williams a Debussy.

Rebecca Clarke gyda’i fiola, 1919

Mae ein cyngherddau yng ngogledd Cymru wedi ein harwain at edrych ar gyfansoddwr oedd â chysylltiad arbennig gyda’r rhan hon o’r wlad. Bu i Felix Mendelssohn, ar ei daith gyntaf o Brydain yn 1829, ymweld â Sir y Fflint fel gwestai i’r diwydiannwr enwog, John Taylor. Oddi yno, datblygodd ei ddiddordeb mawr yn niwydiant Cymru, gan deithio ar hyd arfordir y gogledd yn paentio wrth iddo wneud hynny. Oedd, roedd Mendelssohn yn arlunydd dawnus, ymhlith amryw o bethau eraill, ac mae ei frasluniau o’r cyfnod hwnnw’n cynnwys un o Gastell Conwy. Rwy’n hynod o falch y bydd Nicki Pearce, sydd hefyd wedi’i lleoli yng ngogledd Cymru, yn rhoi perfformiad cymharol brin o waith byrlymus a meistrolgar y cyfansoddwr, sef y Sonata for Cello and Piano Number 2. Fe’i cyfansoddwyd yn 1842 ac mae’n agor gyda’r fath fwrlwm o egni a allai ond fod wedi dod gan Mendelssohn.

Felix Mendelssohn, braslun o Gastell Conwy, 1829

Pan oeddent yn fechgyn ifanc, roedd Robert Schumann a Camille Saint-Saens yn anghyffredin o ddawnus. Rhoddodd Saint-Saens ei berfformiad cyntaf ar y piano pan oedd yn ddeg oed, ac yn dilyn hynny, fel encôr, cynigiodd chwarae unrhyw un o blith y 32 o sonatas piano Beethoven o’i gof! Ac roedd gan Schumann, a ddechreuodd chwarae’r piano’n saith oed, ddawn am chwarae’n fyrfyfyr yn arddull cyfansoddwyr eraill a chreu cymeriadau cerddorol o ffrindiau a theulu, oedd yn rhywbeth yr oedd pobl yn ei garu. Yn ddiweddarach, roedd Saint-Saens yn parodïo Offenbach, Berlioz a Mendelssohn i greu ei garicaturau anifeiliaid ei hun yn ei gyfansoddiad Carnifal yr Anifeiliaid. Ac eto, gyda’r holl orchestwaith adloniadol yma, mae’n bosib mai eu mynegiant cerddorol mwyaf agos atoch sy’n eu gwneud yn boblogaidd, megis caneuon, darnau bach i’r piano a cherddoriaeth siambr

Charles Leandre, caricatur o Camille Saint-Saens




Ac yma mae ganddynt rywbeth arall yn gyffredin. Bu i’r ddau gyfansoddi, yn ystod blwyddyn yn unig, dri chyfansoddiad ar gyfer offerynnau chwyth a phiano. Roedd Schumann yn 38 neu 39 pan gyfansoddodd ei dri gwaith ef, ar gyfer clarinet, corn ac obo. Mewn gwrthgyferbyniad, roedd Saint-Saens yn 85 neu 86 pan ysgrifennodd sonatas ar gyfer obo, clarinet a basŵn. Mae darnau Schumann yn deimladwy o ramantaidd, gyda sonatas Saint-Saens urddasol a chain wrth iddynt ddal rhywbeth deniadol o Ffrengig sy’n ymgorffori’r delfryd o harddwch. Roedd Saint-Saens yn edmygwr ac yn hyrwyddwr brwd o Schumann ac yn y tymor hwn rydym yn cynnwys cerddoriaeth siambr gan y ddau gyfansoddwr gan gynnwys dau Ffantasi: Fantaisie Saint-Saens ar gyfer y Ffidil a’r Delyn, a gyfansoddwyd yn 1907 pan oedd ar wyliau yn yr Eidal, a berfformir gan Elenid Owen ac Anne Denholm, a Fantasiestücke Op. 73, a gyfansoddwyd yn wreiddiol ar gyfer y clarinet a’r piano (fel y crybwyllwyd uchod) ond yma fe’i perfformir ar y fiola gan Sara Roberts.

Robert a Clara Schumann

Bydd ychydig o weithiau siambr ysgafnach gan y ddau gyfansoddwr yn ogystal, a daw’r tymor i ben gyda pherfformiad gan Huw Clement-Evans o Oboe Sonata Saint-Saens a 3 Romances for Oboe and Piano Schumann, gwaith hyfryd a roddwyd yn anrheg Nadolig i wraig Schumann, Clara, y byddwn hefyd yn cynnwys ei cherddoriaeth hi.

Gyda’i gilydd, cymysgedd llawen o gerddoriaeth siambr wych gan rai o hoff berfformwyr Ensemble Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno!