Apêl Pen Blwydd

Medi 2001-2026

Cyfle i ddyblu’ch rhodd rheolaidd a diogelu dyfodol i gerddoriaeth siambr.

Rydym yn paratoi at ddathlu ein Pen-blwydd yn 25ain yn ystod 2026-27 gyda chi. Helpwch ni ddiogelu y 25 mlynedd nesaf i gerddoriaeth siambr yng Nghymru.

Bydd ein 25ain Apêl Pen-blwydd a gefnogwyd gan Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn Jones yn cyfatebu’ch rhodd misol rheolaidd £1 am £1 hyd at Ionawr 2026 neu nes bod y gronfa gyfatebol o £5,000 wedi dod i ben.

Gallai rodd o £100 ddod yn £225*!

*Rhodd gwreiddiol: £100 + Cymorth Rhodd (Trethdalwyr DU yn unig): £25 + £100 o’n Cronfa Cyfatebu! = £225

Trwy gyfraniad misol, byddwch yn ymuno â chymuned o gefnogwyr angerddol sydd yn credu yng ngrym cerddoriaeth i ysbrydoli, addysgu a dod â llawenydd i bobl o bob oedran.

Effaith eich cefnogaeth:

Fel cefnogwr, bydd eich haelioni yn ein galluogi ni i:

  • gynnal cynnydd yn nifer ein cyngherddau ag ymgysylltu cymunedol
  • gynllunio gyda hyder, gan sicrhau hirhoedledd ein gwaith
  • gyrraedd fwyfwy o gynulleidfaoedd o bob cenhedlaeth gyda llawenydd cerddoriaeth fyw

Y cam nesaf:

Gallwch roi drwy lenwi’r ffurflen isod neu gysylltwch â ni am ffurflen Debyd Uniongyrchol.

Er mwyn bod yn gymwys, mae’n rhaid i rodd fod yn:

  • rhodd misol neu yn flynyddol
  • rhodd drwy Ddebyd Uniongyrchol (dewisol) neu Gerdyn Credyd
  • cael ei dderbyn erbyn Ionawr 2026

Rhoddwyr cyfredol:

Fel un o’r rhoddwyr rheolaidd, bydd eich rhoddion yn cael eu dyblu rhwng Medi 2025 a Ionawr 2026.

Diolch o galon am barhau i fod asgwrn cefn i Ensemble Cymru!

Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn Jones

Mae ymddiriedolwyr Ensemble Cymru yn ddiolchgar iawn i ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn Jones am eu cefnogaeth.