Yr Ystafell Gerdd
2024-2025
Croeso i’r Ystafell Gerdd, sef cyfres o Gyngherddau Cerddoriaeth Siambr misol a gyflwynir gan Ensemble Cymru ar y cyd â Neuadd Gregynog ac Eglwys y Santes Fair, Conwy.
Bydd y cyngherddau’n para oddeutu 45-50 munud a byddant yn cael eu cynnal ddwywaith dros yr un penwythnos, am 11.00am ddydd Sadwrn yn ystafell gerdd hanesyddol Neuadd Gregynog yn harddwch Canolbarth Cymru, ac am 4.00pm ddydd Sul yn Neuadd y Santes Fair, Conwy. Caiff y cyngherddau eu hysbrydoli gan Gwendoline a Margaret Davies ac maent yn cynnig cefndir cerddorol i’w bywydau anhygoel a’r byd creadigol roeddent yn rhan ohono ac a gefnogwyd ganddynt.
Mai 2025

Yr Ystafell Gerdd, Eglwys Sant Cynon
Dyddiad 10/05/2025 Amser 12:00 am
Lleoliad Eglwys Sant Cynon
Cerddorion: Christopher Goodman – clarinét; Huw Clement-Evans – obo; Alanna Pennar-Macfarlane – basŵn Cerddoriaeth: Rhaglen difyr gan Driawd Cyrs Ensemble...

Yr Ystafell Gerdd, Eglwys Santes Fair
Dyddiad 11/05/2025 Amser 4:00 pm - 4:45 pm
Lleoliad Eglwys Santes Fair, Conwy
Cerddorion: Christopher Goodman – clarinét; Huw Clement-Evans – obo; Alanna Pennar-Macfarlane – basŵn Cerddoriaeth: Rhaglen difyr gan Driawd Cyrs Ensemble...
Mehefin 2025

Yr Ystafell Gerdd, Gregynog
Dyddiad 07/06/2025 Amser 11:00 am - 11:45 am
Lleoliad Gregynog
Cerddorion: i'w gadarnhau Cerddoriaeth: i'w gadarnhau

Yr Ystafell Gerdd, Eglwys Santes Fair
Dyddiad 08/06/2025 Amser 4:00 pm - 4:45 pm
Lleoliad Eglwys Santes Fair, Conwy
Cerddorion: i'w gadarnhau Cerddoriaeth: i'w gadarnhau
Gorffennaf 2025

Yr Ystafell Gerdd, Gregynog
Dyddiad 12/07/2025 Amser 11:00 am - 11:45 am
Lleoliad Gregynog
Cerddorion: i'w gadarnhau Cerddoriaeth: i'w gadarnhau

Yr Ystafell Gerdd, Eglwys Santes Fair
Dyddiad 13/07/2025 Amser 4:00 pm - 4:45 pm
Lleoliad Eglwys Santes Fair, Conwy
Cerddorion: i'w gadarnhau Cerddoriaeth: i'w gadarnhau

Y Gerddoriaeth
Mae rhaglenni unigryw yr Ystafell Gerdd yn canolbwyntio ar gerddoriaeth siambr sy’n deillio o Brydain a Ffrainc rhwng oddeutu’r 1890au a’r 1930au. Mae’r cyfansoddwyr o Brydain yn cynnwys Frank Bridge, Edward Elgar, Arnold Bax, Rebecca Clarke a Ralph Vaughan Williams. Mae’r cyfansoddwyr o Ffrainc yn cynnwys Gabriel Faure, Lili a Nadia Boulanger, Claude Debussy a Maurice Ravel. Mae pob rhaglen yn cynnwys rhwng dau a thri o berfformwyr, a chafodd y gweithiau eu dewis er mwyn arddangos amrywiaeth eclectig Ensemble Cymru o gerddorion clasurol sy’n perfformio cyfuniadau gwahanol, ac anarferol weithiau, er mwyn cynnig arlwy cerddorol gorfoleddus, difyr ac ystyrlon i gynulleidfaoedd.
Y Chwiorydd Davies
Roedd Gwendoline (1882-1951) a Margaret (1884-1963) Davies yn chwiorydd, yn ddyngarwyr ac yn noddwyr y celfyddydau ac fe etifeddodd y ddwy ffortiwn gan eu taid, a oedd yn ddiwydiannwr. Y celfyddydau oedd diddordeb mawr Margaret a cherddoriaeth oedd yn mynd â bryd Gwendoline, ac roedd gan eu bywydau yn ystod degawdau cynnar yr 20fed ganrif gysylltiad agos â Phrydain a Ffrainc. Teithiodd y ddwy yn eang, gan gasglu llu o baentiadau. Hefyd, buont yn gwasanaethu gyda’r Groes Goch yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl y rhyfel, prynodd y ddwy Neuadd Gregynog gan fynd ati i sefydlu canolfan ar gyfer y celfyddydau creadigol a gŵyl gerddorol.

Tîm Creadigol
Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig
Jonathan Lyness, Curadur y Rhaglen