Cymheiriaid naturiol – llais a feiolín

gan Jonathan Lyness
Curadur y Rhaglen

Dywedir yn aml mai’r sielo yw’r offeryn gorau i efelychu’r llais dynol. Ac mai’r piano neu gitâr yw’r offerynnau gorau i gyfeilio i’r llais. Ond pa offeryn sydd orau i gyfathrebu â’r llais? Yn sicr, yr ateb yw’r feiolín. Mae gan y ddau ‘offeryn’ – y llais a’r feiolín – ystod debyg (os mai llais benywaidd ydyw); mae’r ddau’n gallu llithro’n rhydd, yn ystwyth, a hyd yn oed yn hudolus rhwng nodau; gall y ddau oresgyn dynameg gyferbyniol ar draws eu hystod; gall y ddau ysgubo ar draws cymalau, bownsio’n chwareus, ymosod yn wyllt, cysgodi, cyfeilio neu wrthbwyntio ei gilydd yn awchus. Felly, ni ddylai fod yn syndod bod sawl cyfansoddwr wedi cyfansoddi deuawdau ar gyfer y llais a’r feiolín.

Efallai mai’r hyn fydd yn synnu rhywun yw bod bron yr holl repertoire clasurol amlwg ar gyfer y llais a’r feiolín yn dod o’r 1920au! Nid oes dim byd pwysig yn dod o gyfnod cynharach. Pe byddech wedi bod eisiau clywed feiolín yn cyfeilio i lais cyn hyn, y cyfle gorau fyddai dod o hyd i dafarn glasurol gyda sîn gerddoriaeth werin dda. Ac efallai mai dyna’n union wnaeth Vaughan Williams, oherwydd mae’n ymddangos ei fod wedi dechrau arni ychydig yn gynt pan osododd dwy gân werin o Loegr ar gyfer llais a feiolín – “Searching for Lambs” a “The Lawyer”, yn 1913. Erbyn hynny, roedd Vaughan Williams wedi ymsefydlu’n ddwfn yn yr adfywiad cerddoriaeth werin, a gan ei fod yn feiolinydd gwych ei hun, roedd yn dangos sut y gallai’r feiolín fod yn bartner hardd a sensitif i’r llais.

Mae’n rhaid bod y si wedi mynd ar led wrth i ganeuon i’r llais a’r feiolín ddod o bob cyfeiriad gan rai fel Gustav Holst, Darius Milhaud, Heitor Villa-Lobos a Rebecca Clarke, am ychydig flynyddoedd, heb sôn am gyfarwyddwr cerdd Neuadd Gregynog ei hun, Walford Davies, a osododd Shepherd Boy’s Song’ yn 1917, y mae llawysgrif ohoni’n cael ei chadw yn archif y RCM. Ychydig a wyddom am gyfraniad Milhaud o 1923, a osododd 4 cerdd gan y bardd o Rufain aius Valerius Catullus, a gyfieithwyd i’r Ffrangeg. Maedd Milhaud yn feiolinydd arall, ac roedd y darn i’r feiolín yn dangos gorchestwaith technegol sylweddol, gyda gwasgiadau dwbl (hynny yw, dau linyn neu fwy yn ffurfio cordiau a harmonïau) yn dilyn ei gilydd yn sydyn, ynghyd â byseddu a bwa nodi’r cyfansoddwr, bob amser yn ategu at y llais a’i feithrin.

Roedd Rebecca Clarke yn chwaraewr fiola adnabyddus yn rhyngwladol a ddaeth i amlygrwydd yn ystod y 1020au oherwydd ei chwarae a’i gwaith siambr grymus. Yn ei “Three Old English Songs” (1924) a “Three Irish Country Songs” (1926), mae Clarke yn rhoi’r feiolín a’r llais ar waith yn gyfartal – yn wir, mae’r feiolín weithiau yn fwy mynegiannol na’r llais, er nad oes ganddi eiriau! Roedd Clarke a Vaughan Williams yn ffrindiau agos, yn perfformio gyda’i gilydd yn aml ac yn rhannu syniadau, felly mae’n dra thebygol y byddai caneuon Clarke wedi sbarduno Vaughan Williams i ddychwelyd i’r genre llais/feiolín. Yn 1927 fe greoedd gylch o 8 cân o dan y teitl ‘Along the field’, gan brofi unwaith eto bod y feiolín a’r llais wirioneddol yn gymheiriaid gwych a naturiol.

Musicians

  • Elenid Owen – feiolín
  • Alys Mererid – soprano

Programme

  • Rebecca Clarke (1886-1979) Tair Hen Gân Saesneg (1924) 6½’
  • Ralph Vaughan Williams (1872-1958) Caneuon o ‘Along the Field’ (1927) 6’
  • Darius Milhaud (1892-1974) Quatre Poèmes de Catulle, Op.80 (1923) 4½‘
  • Rebecca Clarke (1886-1979) Tair o Ganeuon Gwlad o’r Iwerddon (1926) 6½’
  • Ralph Vaughan Williams (1872-1958) Dwy gân werin o Loegr (1913) 5½’

Events

  • 11.00am, Dydd Sadwrn 8 Tachwedd 2025, Ystafell Gerdd, Neuadd Gregynog
  • 4.00pm, Dydd Sadwrn 8 Tachwedd 2025, Theatr y Ddraig, Abermaw
  • 4.00pm, Dydd Sul 9 Tachwedd 2025, Eglwys y Santes Fair, Conwy
  • 11.00am, Dydd Llun 10 Tachwedd 2025, Neuadd Dwyfor, Pwllheli