gan Jonathan Lyness
Curadur y Rhaglen
Mae’n debyg bod y gair ‘ffliwt‘ wedi dechrau fel y ferf Lladin ‘flare‘ sy’n golygu ‘chwythu‘, cyn cyrraedd yr Hen iaith Provençal fel ‘flaüt’ ac yna’r Hen Ffrangeg fel ‘fleüte’ neu ‘flahute’. Mae sillafiadau Saesneg Cynnar yn cynnwys ‘floute’ a ‘flowte’, ac mae rhagor o sillafiadau i’w cael – yn wir, gallwch ei sillafu unrhyw ffordd y mynnwch, ac mae’n debygol o feddu ar deilyngdod hanesyddol! Heddiw, mae’r Ffrancwyr yn ysgrifennu ‘flûte’, a phan fyddaf yn meddwl am y ffliwt, mae Ffrainc yn croesi fy meddwl, oherwydd dau brif waith. Y cyntaf yw Sicilienne gan Gabriel Fauré ar gyfer y ffliwt a’r delyn a ysgrifennwyd fel rhan o’i gerddoriaeth llwyfan ar gyfer Pelleas et Melisande gan Maurice Maeterlinck.

Yr ail yw Préludes à l’après midi d’un faune gan Claude Debussy. Yn cael ei ystyried yn eang fel dechreuad i gerddoriaeth gyfoes a champwaith argraffiadaeth Ffrengig, fe’i hysbrydolwyd gan gerdd o’r un enw gan Stéphane Mallarmé, a gafodd ei ysbrydoli ei hun gan y paentiad ‘Pan and Syrinx’ o 1759 gan Francois Boucher. Ac mae’n dechrau gydag unawd ffliwt fythgofiadwy.

Roedd y gyfansoddwraig Ffrengig Mélanie ‘Mel’ Bonis yn adnabod Debussy – roedd y ddau’n ddisgyblion piano â César Franck yn y Conservatoire de Paris. Yn dilyn ei hastudiaethau, gorfododd ei rhieni hi i briodi diwydiannwr a oedd 20 mlynedd yn hŷn na hi ac a’i hanogodd hi i beidio â dilyn ei breuddwyd cerddorol. Ymhen hir a hwyr, bu iddi ailgysylltu â chyd-fyfyriwr a oedd yn agos iawn at ei chalon – Amédée Hettich. Cawsant berthynas gyfrinachol a arweiniodd at enedigaeth eu plentyn siawns, Madeleine, a dyfodd i fyny heb adnabod ei mam ac a syrthiodd mewn cariad yn ddiweddarach â mab Hettich. Am stori a hanner! Byddai mwyafrif cerddoriaeth Bonis yn parhau heb ei chyhoeddi; i unrhyw waith a gafodd ei gyhoeddi mabwysiadodd yr enw niwtral o ran rhywedd – Mel Bonis – er mwyn osgoi’r rhagfarn anochel yn erbyn cyfansoddwyr benywaidd.

Fel cymaint o gyfansoddwyr Ffrengig, cyfansoddodd Bonis yn helaeth ar gyfer y ffliwt, ac ni allai ei Sonata yn C# minor, sy’n cyfleu ei hymdeimlad nodweddiadol o harmoni, rhythm a nodau argraffiadol, swnio’n fwy Ffrengig! Mae’n waith pedwar-symudiad ar raddfa fawr gydag Andante ymestynnol, Scherzo chwareus, ac Adagio llawn rhapsodi a Finale sylweddol. Byddai Bonis wedi bod yn gyfarwydd â’r chwiorydd Boulanger, Nadia a Lili, gan eu bod yn rhannu dylanwad Fauré ac yn cylchdroi o fewn yr un cylchoedd cerddorol ym Mharis. Ystyriwyd Lili yn wyrth gerddorol – bu i Fauré nodi ei thraw perffaith pan oedd hi’n ddyflwydd oed. Bu farw’n drychinebus o ifanc a chaiff ei gwaith prin ei nodweddu gan harmonïau lliwgar a gweadau tryleu, sydd i’w clywed yn amlwg yn ei darn Nocturne.

Dylanwadwyd y genhedlaeth newydd o gyfansoddwyr Saesneg ar droad y ganrif gan argraffiadaeth Ffrengig. Roedd York Bowen yn un o’r rhai hynny, oedd â’i ddarnau piano cynnar yn amlygu tueddiadau ‘Ffrainc-garol’ pendant. Roedd yn bianydd a ddaeth yn adnabyddus fel y ‘Rachmaninov Saesneg’, ac, fel sawl cyfansoddwr Saesneg arall, cafodd ei alw i’r rhyfel byd cyntaf cyn ymuno â’r Academi Gerdd Frenhinol fel Athro Piano lle bu am weddill ei oes. Mae ei Sonata ar gyfer Ffliwt a Phiano yn cynnwys tri symudiad: Allegro ar raddfa fawr, Andante Piacevole – hwiangerdd hyfryd a hudolus, ac Allegro con fuoco sy’n bwerus o’r dechrau ac sy’n parhau’n llawn cyffro i’r diwedd un.
Cerddorion
- Alena Walentin – Ffliwt
- Richard Ormrod – Piano
Rhaglen
- Mel Bonis (1858 – 1937) Sonata ar gyfer Ffliwt a Phiano yn C# leiaf, Op. 64 (1904), 18’
- York Bowen (1884 – 1961) Sonata ar gyfer Ffliwt a Phiano Op 120 (1946), 20’
- Lili Boulanger (1893 – 1918) Nocturne (1911), 3’
Digwyddiadau
- 11.00yb, Sad 13 Rhagfyr 2025, Yr Ystafell Gerdd, Gregynog
- 4.00yp, Sul 14 Rhagfyr 2025, Eglwys Santes Fair, Conwy
- 11.00yb, Llun 15 Rhagfyr 2025, Neuadd Dwyfor, Pwllheli

