Ynghudd am 90 mlynedd!

gan Jonathan Lyness

Y clarinét yw’r chwythbren gorau o ddigon”. Wel, dyna ddatganiad dadleuol, os bu un erioed! Rydw i’n siŵr y byddai’r clarinetydd Peryn Clement-Evans, sylfaenydd Ensemble Cymru, yn cytuno’n llwyr! 😉 Ond prysuraf ddweud nad Peryn na minnau sy’n gyfrifol am y datganiad hwn, ond John Ireland (1879 – 1962), y cyfansoddwr o Loegr. Ac mae ei weithiau’n brawf o’i deimladau ynglŷn â’r mater; cyfansoddodd dri o weithiau cerddoriaeth siambr a oedd yn cynnwys offerynnau chwyth, sef: chwechawd ar gyfer clarinét, corn ac offerynnau llinynnol, sonata ar gyfer clarinét a phiano, a thrio ar gyfer clarinét, soddgrwth a phiano, a gyfansoddwyd yn union cyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.

by Herbert Lambert, bromide print, circa 1920

Mozart, yn y 1780au, oedd y cyfansoddwr enwog cyntaf i gynnwys y clarinét modern, newydd mewn cerddoriaeth siambr a oedd, tan hynny, yn drwm dan ddylanwad offerynnau llinynnol. Defnyddiodd y clarinét yn ei Bumawd Clarinét a’i Drio “Kegelstatt” ar gyfer Clarinét, Fiola a Phiano, a berfformiwyd gan EC yng nghyngherddau mis Ebrill. Cyfansoddwyd y gweithiau hyn yn arbennig ar gyfer Anton Stadler, sef clarinetydd ac un o gyfeillion Mozart. Ym 1861, cyfansoddodd Louise Farrenc o Ffrainc drio clarinét ar gyfer ei chyfaill Adolphe Leroy, a oedd yn glarinetydd (erbyn y cyfnod hwn, roedd y clarinét wedi datblygu’n fawr o gymharu â dyddiau Mozart). Ddeg mlynedd ar hunain yn ddiweddarach, ym 1891, roedd un o gyfeillion Johannes Brahms yn glarinetydd hefyd! Ei enw oedd Richard Mühlfeld, a chyfansoddodd Brahms bedwar o weithiau siambr sylweddol ar ei gyfer, yn cynnwys pumawd clarinét a thrio clarinét.

Pan oedd John Ireland yn ei arddegau, clywodd Mühlfeld yn canu’r clarinét mewn perfformiad o bumawd Brahms yn Neuadd St. James, Llundain ym 1898. Roedd yn llawn parch tuag at Mühlfeld a photensial y clarinét fel offeryn cerddoriaeth siambr. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, bu trio clarinét Brahms yn ysbrydoliaeth i drio Ireland, lle defnyddiwyd yr un cyfuniad o offerynnau, sef: clarinét, soddgrwth a phiano (mae cyfuniadau eraill, fel cyfuniad Mozart, hefyd ar gael). Ond pan gyfansoddodd Ireland ei drio, roedd Mühlfeld wedi marw, ac ni wyddom a oedd gan yr hen Ireland druan gyfeillion a oedd hefyd yn glarinetwyr!

The opening of Ireland’s Clarinet Trio

Yn wahanol i Debussy a Vaughan Williams – sef cyfansoddwyr y bydd Ensemble Cymru yn perfformio’u cerddoriaeth mewn cyngherddau ym mis Mehefin – ni chafodd John Ireland ei werthfawrogi’n fawr yn ystod ei oes. Perfformiwyd ei drio clarinét am y tro cyntaf ym mis Mehefin 1914, ac unwaith eto o bosibl ym mis Mai 1915. Yna, rhoddodd Ireland y gwaith i’r naill ochr, ac er ei fod wedi ailddefnyddio rhannau ohono, arhosodd y trio clarinét gwreiddiol ynghudd am bron i 90 mlynedd, heb gael ei berfformio na’i gyhoeddi! Cafodd ei ail-greu’n ofalus gan Stephen Fox, y clarinetydd o Ganada, trwy ddefnyddio casgliad o ddeunyddiau anghyflawn a gedwid yn y Llyfrgell Brydeinig. Perfformiwyd y fersiwn fodern am y tro cyntaf yn 2007. Mae’n waith aeddfed, dramatig a hyfryd, mae’n drawiadol o wreiddiol ac mae’n gwbl nodweddiadol o Ireland. Ac er ei bod yn gwbl glir mai cyfansoddwr o Brydain a gyfansoddodd y gwaith, mae dylanwad Debussy a Ravel i’w weld yn amlwg. Gyda’i nodweddion soniarus Prydeinig a Ffrengig, yn ddi-os fe fyddai’r gwaith hwn wedi cael cryn groeso yn un o wyliau Gregynog rhwng y ddau ryfel, pe bai’r chwiorydd Davies yn gwybod am ei fodolaeth.

Musicians

Christopher Goodman – clarinét
Nia Harries – soddgrwth
Richard Ormrod – piano

Programme

  • Vaughan Williams – ‘Six Studies in English Folksongs’ ar gyfer y Soddgrwth a’r Piano (1926) 9’
  • Claude Debussy – ‘Premiere Rhapsodie’ ar gyfer y Clarinét a’r Piano (1909-10) 9’
  • John Ireland – Trio ar gyfer y Clarinét, y Soddgrwth a’r Piano (1913) 23’

Event Links