Cyngerdd Coffi – Galeri, Caernarfon

Chwefror 2017

(Feiolin, Clarinét, Piano)

Yn Chwefror 2017 bydd y feiolinydd Florence Cooke a Richard Ormrod (piano) yn ymuno â ni i roi rhaglen gyffrous ac amrywiol, yn cynnwys Sonata Mozart i’r Piano a Feiolin yn B feddalnod (cyfuniad perffaith gyda choffi’r bore!)

Hefyd cyflwynir ‘Contrasts’ gan Béla Bartók, darn a ysbrydolwyd gan gerddoriaeth werin Dwyrain Ewrop, a’r gwaith trawiadol o egnïol  ‘Suite for Clarinet, Violin and Piano’ gan y cyfansoddwr Ffrengig hynod wreiddiol, Darius Milhaud.

Rhaglen:

Mozart – Sonata yn Bb fwyaf, K. 378
Béla Bartók – Contrasts, Sz.111
Darius Milhaud – Cyfres, Op. 157b

Perfformwyr:

Feiolín – Florence Cooke
Clarinét – Peryn Clement-Evans
Piano – Richard Ormrod

Tocynnau:

Llawn: £9

Myfyrwyr | Plentyn: £3

Gwybodaeth Archebu:

Ffôn: 01286 685250

Ar-lein: www.galericaernarfon.com

 

Dyddiad 03/02/2017 Amser 2:30 pm - 3:30 pm

Lleoliad Galeri Caernarfon