Cyngerdd Coffi – Pontio, Bangor

Anne Denholm, Royal Harpist ©Jerome Woodwark

Cyngerdd Hydref

Telyn, Ffliwt, Clarinét, Basŵn

Ym mis Hydref 2016 ceir rhaglen ryngwladol gyffrous, yn cynnwys sonatas o’r cyfnodau Baróc a Chlasurol cynnar gan Vivaldi a C.P.E. Bach, ynghyd â’r ‘Capriccio’ bywiog gan Franz Poenitz a ‘Deialogau’ gan y cyfansoddwr Cymreig nodedig Mervyn Burtch – pryd y bydd ein prif ffliwtydd, Jonathan Rimmer, yn ymuno â’r Delynores Frenhinol, Anne Denholm.

Mae Ensemble Cymru’n hynod falch o groesawu Anne Denholm, Telynores Swyddogol Tywysog Cymru, fel Prif Delynores am dymor 2016-17. Anne yw’r cyntaf i dderbyn y Gadair Ryngwladol Gaynor-Cemlyn-Jones i’r Delyn.

Rhaglen:

CPE Bach – Sonata yn G leiaf H542.5 (BWV 1020)
Vivaldi – Sonata yn E leiaf RV 40
Mervyn Burtch – Deialogau
Fr. Poenitz – Capriccio Op. 73

Rosy Wertheim – Triawd

Berlioz E. –  L’Enfance du Christ – Trio des Ismaëlites

Perfformwyr:

Anne Denholm – Telyn
Jonathan Rimmer – Ffliwt
Peryn Clement-Evans – Clarinét
Llinos Elin Owen – Basŵn

Tocynnau:

£12/£10/£5 (o dan 18 a myfyrwyr)

Gwybodaeth Archebu:
Ar-lein: Ewch ar wefan Pontio
Ffôn: 01248 38 28 28 (Llun -Sad 10am – 8:30pm) (Sul 12pm – 6pm)

Dyddiad 30/10/2016 Amser 3:00 pm - 4:00 pm