Mae Ensemble Cymru, sef ensemble preswyl Prifysgol Bangor a Venue Cymru, yn perfformio unwaith eto yn Aberystwyth, gyda rhaglen ddelfrydol sy’n cynnwys Wythawd enwog Schubert – gwaith sylweddol i’w gyflawni ym myd cerddoriaeth siambr, sy’n parhau i swyno’r rhai sy’n mwynhau cerddoriaeth ledled y byd – ochr yn ochr â theyrnged Gymreig gyfoes o waith y cyfansoddwr, John Metcalf, i’r ffigwr hanesyddol mawr hwn.
“Mae Beethoven yn cyfansoddi fel pensaer. Mae Schubert yn cyfansoddi fel un sy’n cerdded yn ei gwsg.” Alfred Brendel
Rhaglen
Wythawd yn F fwyaf. D 803 (1824) – Schubert
Wythawd (2018) – John Metcalf
Tocynnau
Pris Safonol | £5, £13, £5 |
Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith | I’w gadarnhau |
Swyddfa Docynnau: 01970 623232
“Mae ‘na ansawdd delynegol gynhenid i gerddoriaeth y cyfansoddwr o Gymru John Metcalf ……” – Gramophone
“… cyngerdd rhagorol o amrywiol ” – Wales Arts Review
“…arwrol a theimladwy dros ben ” – Critics Circle
Dyddiad 17/11/2019 Amser 3:00 pm - 4:45 pm
Lleoliad Canolfan Celfyddydau Aberystwyth