Mae Ensemble Cymru, sef ensemble preswyl Prifysgol Bangor a Venue Cymru, yn perfformio unwaith eto yn Eglwys Gloddaeth, gyda rhaglen ddelfrydol sy’n cynnwys Wythawd enwog Schubert – gwaith sylweddol i’w gyflawni ym myd cerddoriaeth siambr, sy’n parhau i swyno’r rhai sy’n mwynhau cerddoriaeth ledled y byd – ochr yn ochr â theyrnged Gymreig gyfoes o waith y cyfansoddwr, John Metcalf, i’r ffigwr hanesyddol mawr hwn.
“Mae Beethoven yn cyfansoddi fel pensaer. Mae Schubert yn cyfansoddi fel un sy’n cerdded yn ei gwsg.” Alfred Brendel
Rhaglen
Wythawd yn F fwyaf. D 803 (1824) – Schubert
Wythawd (2018) – John Metcalf
Amser rhedeg: 115′ gan gynnwys egwyl
Tocynnau
Mae tocynnau at gael i’w harchebu ar-lein YMA.
Pris Safonol
Addysg Llawn Amser Wrth y drws |
£12
£5 £13.50 |
Cydymaith unigolyn anabl | £ Dim |
Swyddfa Docynnau: 01492 872000
“Mae ‘na ansawdd delynegol gynhenid i gerddoriaeth y cyfansoddwr o Gymru John Metcalf ……” – Gramophone
“… cyngerdd rhagorol o amrywiol ” – Wales Arts Review
“…arwrol a theimladwy dros ben ” – Critics Circle
Dyddiad 07/11/2019 Amser 10:30 am - 12:00 pm
Lleoliad Eglwys Gloddaeth, Llandudno