Schubert – Neuadd Dwyfor, Pwllheli

Schubert

Dyddiad/Amser
04/11/2019
10:30 am - 12:00 pm

Lleoliad
Neuadd Dwyfor, Pwllheli

Categorïau


Manylion

Mae Ensemble Cymru, sef ensemble preswyl Prifysgol Bangor a Venue Cymru, yn perfformio unwaith eto yn Neuadd Dwyfor, gyda rhaglen ddelfrydol sy’n cynnwys Wythawd enwog Schubert – gwaith sylweddol i’w gyflawni ym myd cerddoriaeth siambr, sy’n parhau i swyno’r rhai sy’n mwynhau cerddoriaeth ledled y byd – ochr yn ochr â theyrnged Gymreig gyfoes o waith y cyfansoddwr, John Metcalf, i’r ffigwr hanesyddol mawr hwn .

“Mae Beethoven yn cyfansoddi fel pensaer. Mae Schubert yn cyfansoddi fel un sy’n cerdded yn ei gwsg.” Alfred Brendel

Rhaglen

Wythawd yn F fwyaf. D 803 (1824) – Schubert
Wythawd (2018) – John Metcalf

Tocynnau

Pris Safonol £14, £13, £4
Dan 16 oed | Dros 60 | Myfyrwyr | Hawlwyr | Pobl anabl ag un cydymaith I’w gadarnhau

Swyddfa Docynnau: 01758 704088

Mae ‘na ansawdd delynegol gynhenid i gerddoriaeth y cyfansoddwr o Gymru John Metcalf ……” – Gramophone

“… cyngerdd rhagorol o amrywiol ” – Wales Arts Review

“…arwrol a theimladwy dros ben ” – Critics Circle

Tocynnau: Telerau Ac Amodau