Taith Pen-blwydd @ Canolfan Ucheldre, Caergybi

Y Cyngerdd

Bydd prif ensemble cerddoriaeth siambr Cymru, Ensemble Cymru, yn dathlu ei ben-blwydd yn 15 oed eleni, gyda chyngerdd estynedig ac arbennig iawn yn y Ganolfan Ucheldre yn yr hydref. Bydd yn dwyn ynghyd cerddorion byd-enwog sy’n teimlo’n angerddol am rannu cerddoriaeth siambr prin o Gymru a’r byd.

Bydd Ensemble Cymru yn canolbwyntio ar gyfansoddwyr o Gymru gyda pherfformiad o Not the Stillness gan John Metcalf a gwaith cyfansoddwr newydd ifanc o Gymru, Claire Roberts. Bydd hefyd yn gyfle prin i glywed perfformiad byw o Chamber Music No. 1 gan Martinů sydd â’r cyfuniad anghyffredin o’r delyn a’r piano.

AMSER NEWYDD: 7:30pm

Hyd: 90 munud (yn cynnwys egwyl 15 munud)

Dylech gadw eich tocyn i gael eich te neu goffi am ddim yn y caffi yn ystod y cyfwng.

Y Rhaglen

Cerddoriaeth i’r delyn, piano, ffliwt, clarinét, fiola, feiolín a sielo

Chamber Music no. 1 – Bohuslav Martinů
Piano Quartet in A minor – Gustav Mahler
Concert a Cinq – Joseph Jongen
Not the Stillness – John Metcalf
Block – Claire Roberts

Tocynnau: £8 / £3
Cynnig Cynnar: £7 (archebwch erbyn 13 Hydref 2017)
Cyfeillion: £7 (i Gyfeillion Canolfan Ucheldre)

Swyddfa Docynnau: 01407 763 361

 

Dyddiad 15/11/2017 Amser 7:30 pm - 9:00 pm

Lleoliad Canolfan Ucheldre, Caergybi, Ynys Môn