Uchafbwynt Taith Ben-blwydd @ Canolfan Ucheldre, Caergybi

Dyddiad 12/05/2018 Amser 7:30 pm - 9:00 pm

Lleoliad Canolfan Ucheldre, Caergybi, Ynys Môn

Cyngerdd mis Mai

Ar ôl 15 mlynedd o greu cerddoriaeth, mae ein ensemble mwy o faint yn galluogi rhaglen drawiadol ar gyfer mis Mai 2018 sy’n wirioneddol amrywiol o ran amser a lleoliad. O Gymru, mae’n bleser mawr gennym berfformio gweithiau gan ddau gyfansoddwr byw: comisiwn newydd sbon gan Gareth Glyn, ac Emerging (lightly) gan Rhian Samuel o Aberdyfi.  O’r ugeinfed ganrif, cawn y perl na pherfformir mohoni’n aml, Nonet, gan y cyfansoddwr mawr o Loegr, Arnold Bax, ynghyd â Dawnsfeydd Debussy i’r Delyn a Phumawd Llinynnol, a gyfansoddwyd i ‘arddangos’ y delyn. O fynd yn ôl i 1738, mae concerto Hangel Op. 4, Rhif 6 i’r Delyn yn tynnu ar ymron i’r cyfan o’r grymoedd offerynnol amrywiol sydd gennym y tymor cyffrous hwn.

Gan ddiolch i Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones am gefnogi Cadair Ryngwladol Ensemble Cymru i’r Delyn am yr ail flwyddyn.

AMSER NEWYDD: 7:30pm

Hyd: 90 munud (yn cynnwys egwyl 15 munud)

Dylech gadw eich tocyn i gael eich te neu goffi am ddim yn y caffi yn ystod y cyfwng.

Y Rhaglen

Cerddoriaeth i’r ffliwt, obo, clarinét, telyn, ffidlau, sielo a bas dwbl

Claude Debussy – Dawnsfeydd i’r Delyn a Phumawd Llinynol
Arnold Bax – Nonet
Gareth Glyn – I’r Pedwar Gwynt (Comisiwn newydd i Ensemble Cymru).
Handel – Concerto i’r Delyn Rhif 6
Rhian Samuel – Emerging (lightly) i Fiola Solo ac Ensemble Siambr

Tocynnau: £8 / £3
Cyfeillion: £7 (i Gyfeillion Canolfan Ucheldre)

Swyddfa Docynnau: 01407 763 361