Mae Sara’n hanu o Lanfairpwll, Ynys Môn. Cafodd wersi feiolin gan Almut Bone a Margaret Scourse cyn dechrau dysgu’r fiola yn 15 mlwydd oed.
Astudiodd gyda Penny Stirling a Louise Lansdown yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd ym Manceinion (RNCM). Cwblhaodd Sara ei hastudiaethau ôl raddedig gydag Isabel Charisius yn yr Hochschule Musik yn Lucerne a chyda Gabor Takacs-Nagy yn Geneva. Roedd yn un o sylfaenwyr Pedwarawd Benyounes, ac enillodd wobrau yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Pedwarawd Llinynnol Sandor Vegh yn Budapest.