2024-2026

Croeso i’r Ystafell Gerdd, sef cyfres o Gyngherddau Cerddoriaeth Siambr misol a gyflwynir gan Ensemble Cymru ar y cyd â Neuadd Gregynog ac Eglwys y Santes Fair, Conwy.

Bydd y cyngherddau’n para oddeutu 45-50 munud a byddant yn cael eu cynnal ddwywaith dros yr un penwythnos, am 11.00am ddydd Sadwrn yn ystafell gerdd hanesyddol Neuadd Gregynog yn harddwch Canolbarth Cymru, ac am 4.00pm ddydd Sul yn Neuadd y Santes Fair, Conwy. Caiff y cyngherddau eu hysbrydoli gan Gwendoline a Margaret Davies ac maent yn cynnig cefndir cerddorol i’w bywydau anhygoel a’r byd creadigol roeddent yn rhan ohono ac a gefnogwyd ganddynt.

Mae Curadur y Rhaglen Jonathan Lyness yn dweud mwy wrthym am y gerddoriaeth, y themâu a'r cyfansoddwyr sy'n rhan o'n cyngherddau Ystafell Gerdd yma: Darganfod Cerddoriaeth Siambr.

Mai 2026


Yr Ystafell Gerdd, Gregynog

Yr Ystafell Gerdd, Gregynog

Dyddiad 09/05/2026 Amser 11:00 am - 11:45 am

Lleoliad Gregynog

Cerddorion: Chris Goodman – clarinet Richard Ormrod – piano Cerddoriaeth: Bydd Chris Goodman a Richard Ormrod yn cyflwyno sonatau clarinét...

Yr Ystafell Gerdd, Theatr y Ddraig

Yr Ystafell Gerdd, Theatr y Ddraig

Dyddiad 10/05/2026 Amser 11:00 am - 11:45 am

Lleoliad Theatr y Ddraig

Cerddorion: Chris Goodman – clarinet Richard Ormrod – piano Cerddoriaeth: Bydd Chris Goodman a Richard Ormrod yn cyflwyno sonatau clarinét...

Mehefin 2026


Yr Ystafell Gerdd, Gregynog

Yr Ystafell Gerdd, Gregynog

Dyddiad 13/06/2026 Amser 11:00 am - 11:45 am

Lleoliad Gregynog

Cerddorion: Elenid Owen – feiolín Nia Harries – sielo Cerddoriaeth: Ar gyfer cyngerdd derfynol cyfres Ensemble Cymru eleni, mae'r feiolin...

Yr Ystafell Gerdd, Theatr y Ddraig

Yr Ystafell Gerdd, Theatr y Ddraig

Dyddiad 13/06/2026 Amser 4:00 pm - 4:45 pm

Lleoliad Theatr y Ddraig

Cerddorion: Elenid Owen – feiolín Nia Harries – sielo Cerddoriaeth: Ar gyfer cyngerdd derfynol cyfres Ensemble Cymru eleni, mae'r feiolin...

Y Gerddoriaeth

Mae rhaglenni unigryw yr Ystafell Gerdd yn canolbwyntio ar gerddoriaeth siambr sy’n deillio o Brydain a Ffrainc rhwng oddeutu’r 1890au a’r 1930au. Mae’r cyfansoddwyr o Brydain yn cynnwys Frank Bridge, Edward Elgar, Arnold Bax, Rebecca Clarke a Ralph Vaughan Williams. Mae’r cyfansoddwyr o Ffrainc yn cynnwys Gabriel Faure, Lili a Nadia Boulanger, Claude Debussy a Maurice Ravel. Mae pob rhaglen yn cynnwys rhwng dau a thri o berfformwyr, a chafodd y gweithiau eu dewis er mwyn arddangos amrywiaeth eclectig Ensemble Cymru o gerddorion clasurol sy’n perfformio cyfuniadau gwahanol, ac anarferol weithiau, er mwyn cynnig arlwy cerddorol gorfoleddus, difyr ac ystyrlon i gynulleidfaoedd.

Y Chwiorydd Davies

Roedd Gwendoline (1882-1951) a Margaret (1884-1963) Davies yn chwiorydd, yn ddyngarwyr ac yn noddwyr y celfyddydau ac fe etifeddodd y ddwy ffortiwn gan eu taid, a oedd yn ddiwydiannwr. Y celfyddydau oedd diddordeb mawr Margaret a cherddoriaeth oedd yn mynd â bryd Gwendoline, ac roedd gan eu bywydau yn ystod degawdau cynnar yr 20fed ganrif gysylltiad agos â Phrydain a Ffrainc. Teithiodd y ddwy yn eang, gan gasglu llu o baentiadau. Hefyd, buont yn gwasanaethu gyda’r Groes Goch yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl y rhyfel, prynodd y ddwy Neuadd Gregynog gan fynd ati i sefydlu canolfan ar gyfer y celfyddydau creadigol a gŵyl gerddorol.

Tîm Creadigol

Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig
Jonathan Lyness, Curadur y Rhaglen