Cydymaith artistig: Jonathan Lyness

Ganwyd Jonathan yn Llundain, bu’n astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bryste ac yn ddiweddarach bu’n astudio i fod yn arweinydd gyda George Hurst.  Mae’n Gyfarwyddwr Cerdd y Prosiect Opera a sefydlodd ar y cyd ym 1993, ac mae wedi arwain yn helaeth mewn ystod o wyliau opera haf yn y DU gan gynnwys Opera Gŵyl Longborough, Opera West Green House ac Opera Iford.

Mae’n Gyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Llwydlo ac Opera Canolbarth Cymru a gyda nhw mae wedi cydweithio ag Ensemble Cymru ers 2018. Mae ei operâu lu gyda llai o offeryniaethau yn cael eu perfformio’n helaeth ledled y byd, a chyhoeddir ei drefniannau siambr o operâu gan OUP a Peermusic NY. Mae bellach yn byw yng ngogledd-orllewin Swydd Henffordd ers dros ugain mlynedd, gan fwynhau coginio, garddio, gwaith coed a cherdded Gororau Cymru.

Mae Jonathan yn gydymaith artistig ar gyfer rhaglennu a chynnwys.