Ein hymrwymiad
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu doniau yng Nghymru. Yn aml iawn mae pobl yn teimlo mai dim ond mewn dinasoedd mawr y gall cerddoriaeth neu gelfyddyd ragorol fodoli. Rydyn ni’n meddwl yn wahanol. O seilio ein ensemble yng nghefn gwlad Cymru, rydym yn ymrwymo i weithio gyda chymunedau Cymru, mewn canolfannau yng Nghymru gyda cherddorion sydd â’u gwreiddiau yng Nghymru ac sy’n angerddol drosti.
Ymrwymwn i rannu ein brwdfrydedd dros gerddoriaeth. Mae cerddoriaeth yn ddyrchafol, yn ysbrydoledig ac yn llawen ac rydym am rannu hynny gyda’n cynulleidfaoedd a’n cymunedau. Felly yn fwy na chyngherddau’n unig, ymrwymwn i greu cyfleoedd i weithio gyda chymunedau i gyd-greu cerddoriaeth a phrofiadau a fydd yn codi ac yn ysbrydoli pobl. Rydym wrth ein bodd yn siarad â phobl newydd, yn meithrin perthynas ac yn creu syniadau newydd ac yn gweithio i bawb. Dyna pam rydym yn dewis gweithio gyda phlant yr ysgolion cynradd ac athrawon, myfyrwyr, a chymunedau ynysig a llawer mwy.
Rydym yn ymrwymo i gynyddu mynediad i’r gerddoriaeth. Rydym yn gweithio gyda chanolfannau a lleoedd i gynyddu hygyrchedd, i greu mannau diogel i gynulleidfaoedd niwro-ddargyfeiriol. Rydym yn treialu, yn profi ac yn arloesi gyda cherddoriaeth ddigidol, fel y gall pobl gael mynediad rhwydd i’n cerddoriaeth a’n perfformiadau ar-lein.
Rydym yn ymrwymo i berthnasedd. Yn ogystal â dathlu ein treftadaeth, rydym yn gweithio gyda chyfansoddwyr, dawnswyr a chantorion newydd i gomisiynu cerddoriaeth newydd, dod â syniadau ffres, a chreu gwaith newydd sy’n hybu lleisiau, atgofion, bywydau a phrofiadau ein cymunedau heddiw.
Llun o Nant Gwynant © Hawlfraint y Goron (2021) Cymru