Posted on

Y newyddion diweddaraf ar y Big Give – gweler faint yr ydym wedi codi yn barod!

Mae Ensemble Cymru’n hynod falch o fod wedi derbyn addewidion hael gwerth £3800.

Beth nesaf? Cam nesaf yr her yw’r cyfnod rhoi sy’n dechrau ddydd Iau 4 Rhagfyr.

Beth mae hyn yn ei olygu? Yn ystod y cyfnod hwn (o ddydd Iau 4 Rhagfyr, 10a.m.), pan roddir cyfraniad rhoddir swm sy’n cyfateb i 75% ohono o’r addewid, gyda’r gweddill yn dod o gronfa’r elusen. Mae hwn yn amser cyffrous i gyfrannu gan y gellwch weld eich rhodd yn dod â mwy fyth o fudd i Ensemble Cymru wrth iddi ddyblu!

Felly, os ydych yn un o gefnogwyr Ensemble Cymru ac yr hoffech ein helpu, Y Big Give ydi’r cyfle perffaith i gyfrannu! Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth ynghylch beth mae eich rhodd yn ei olygu a chwiliwch ‘Ensemble Cymru’ i weld ein hymgyrch. Darllenwch fwy Y newyddion diweddaraf ar y Big Give – gweler faint yr ydym wedi codi yn barod!