gan Jonathan Lyness
Curadur y Rhaglen
“If music be the food of love, play on” (Shakespeare, o Twelfth Night)
Mae rhoddion cerddorol, gan gyfansoddwyr i’w hanwyliaid, yn dipyn o beth. Creodd Grieg, Strauss, Mahler a Schumann rai, a rhoddodd Elgar ei “Salut d’Amour” (a berfformiwyd y llynedd fel rhan o’r gyfres gerddoriaeth hon) yn anrheg dyweddïo i’w wraig Alice. Ysgrifennodd Brahms ei Zwei Gesänge [dwy gân] Op 91 i’w gyfeillion, y feiolinydd / fiolydd Joseph Joachim a’r mezzo Amalie Schneeweiss; y gân gyntaf ar gyfer eu priodas (a’i hadolygu’n ddiweddarach ar gyfer bedydd eu plentyn cyntaf); a’r ail yn llawer hwyrach mewn ymgais i gymodi priodas ugain mlynedd stormus y cwpwl! Ni weithiodd – bu i Joseph ac Amalie ysgaru’n ddiweddarach!

Ar gyfer eu cyhoeddi ym 1884, newidiodd Brahms eu trefn cronolegol, er mwyn i’r gân gyntaf (y ‘weithred o gymodi’ ddiweddarach) gyda’i llonyddwch ysgafn, yn dod o flaen y gân gynharach, a ddisgrifir orau fel cân suo ar gyfer y crud. Mae mwynder y fiola, cyfoeth y llais mezzo, ac arlliw tywyll ysgrifennu Brahm’s ar gyfer y piano yn creu byd o sain unigryw a gyffyrddodd gyfansoddwyr diweddarach, yn cynnwys Frank Bridge, a ysgrifennodd ei ‘Three Songs’ llawn mynegiant ym 1908, a’r cyfansoddwr a’r organydd Saesnig Benjamin Dale, sydd â hanes eithaf rhyfeddol!


Yn ystod haf 1914, teithiodd Dale i’r Almaen am gyfres opera Wagner, gan gychwyn ym Munich. Pan gyhoeddwyd y rhyfel, cafodd Dale ei ddal, ond bu ei edmygedd o waith Wagner o’i blaid ac ym mis Tachwedd cafodd ei yrru i wersyll caethiwo sifiliaid yn Ruhleben, ger Berlin. Daeth Ruhleben yn ganolfan o weithgarwch diwylliannol, a bu Dale yno am weddill y rhyfel. Yno, ym mis Chwefror 1918, yr ysgrifennodd Dale ei ddwy gân o Twelfth Night, o waith Shakespeare – “O Mistress Mine” , cân pastiche Elisabethaidd osgeiddig; a “Come away, Death”, Sarabande dywyll, gyda Dale, yn sicr o ganlyniad i ddylanwad Brahms, yn ychwanegu fiola, oedd eisoes yn un o’i hoff offerynnau.

Y mis canlynol, ym Mawrth 1918, cyfnewidiwyd ef am garcharor arall, ac fe aeth i’r Hague, cyn cael ei ddychwelyd i Loegr ychydig cyn y cadoediad. Yn rhyfeddol, goroesodd y ddwy gân Shakespeare ac fe’i cyhoeddwyd gan Novello ym 1919 mewn dau gywair. Nid yw’r fersiynau cywair isel gwreiddiol ar gael ar hyn o bryd, a diolch i lyfrgelloedd archif yr RAM a’r RCM mae copïau ar gael i Ensemble Cymru ar gyfer y perfformiadau hyn.


Cyfansoddodd y cyfansoddwr a’r organydd Louis Vierne, oedd yn ddall ers ei enedigaeth, ddau ddarn darluniadol ar gyfer y fiola a’r piano pan yn ŵr ifanc, ond fe’i cofir orau, mae’n debyg, am ddioddef yn o farwolaethau mwyaf trawiadol cerddoriaeth! Ym 1937, roedd yn rhoi ei 1,750fed datganiad ar yr organ i Notre-Dame orlawn ym Mharis pan ddaeth yn anymwybodol, gyda’i droed yn taro’r pedal ‘E’ isel a barhaodd i atseinio o amgylch y gadeirlan wedi iddo farw. Roedd wastad wedi breuddwydio am farw wrth organ y Notre-Dame, ac felly y bu, gyda’r cyfansoddwr
Maurice Duruflé, oedd wedi bod yn troi’r tudalennau, yn eistedd wrth ei ochr.
Cerddorion
- Rebecca Afonwy-Jones – mezzo soprano;
- Sara Roberts – fiola;
- Jonathan Lyness – piano
Rhaglen
- Frank Bridge (1879 – 1941) – Tair cân ar gyfer mezzo, fiola a phiano (1906-07), 10’
“Far, far from each other” (geiriau gan Matthew Arnold)
“Where is it that our soul doth go?” (geiriau gan Heine, cyf. Kroeker)
“Music, when soft voices die” (geiriau gan Shelley) - Rebecca Clarke (1886 – 1979) – Tair cân gyda geiriau gan W. B. Yeats ar gyfer mezzo a phiano, 5½’
“Shy one” (1921)
“The Cloths of Heaven” (1920)
“Down by the Sally Gardens” (1924) - Louis Vierne (1870 – 1937) – Deux pièces ar gyfer fiola a piano Op. 5 (1895), 5½’
“Le Soir” et “Légende” - Benjamin Dale (1885 – 1943) – Dwy gân o Shakespeare (1918), 7’
“O Mistress Mine” ar gyfer mezzo a phiano
“Come away death” ar gyfer mezzo, fiola a phiano - Johannes Brahms (1833 – 1897) – Dwy gân ar gyfer mezzo, fiola a phiano Op.91 (1884), 12’
“Gestillte Sehnsucht” (geiriau gan Friedrich Rückert)
“Geistliches Wiegenlied” (geiriau gan Emanuel Geibel, ar ôl Lope de Vega)
(Noder, perfformiwyd yn flaenorol yng Ngregynog 16/06/1934)
Digwyddiadau
- 11.00am, Sadwrn 7 Mawrth 2026, Yr Ystafell Gerdd, Neuadd Gregynog
- 11.00am, Sul 8 Mawrth 2026, Yr Ystafell Gerdd, Theatr Y Ddraig, Y Bermo
- 4.00pm, Sul 8 Mawrth 2026, Yr Ystafell Gerdd, Eglwys Santes Fair, Conwy

