Yr Ystafell Gerdd
2024-2025
Croeso i’r Ystafell Gerdd, sef cyfres o Gyngherddau Cerddoriaeth Siambr misol a gyflwynir gan Ensemble Cymru ar y cyd â Neuadd Gregynog ac Eglwys y Santes Fair, Conwy.
Bydd y cyngherddau’n para oddeutu 45-50 munud a byddant yn cael eu cynnal ddwywaith dros yr un penwythnos, am 11.00am ddydd Sadwrn yn ystafell gerdd hanesyddol Neuadd Gregynog yn harddwch Canolbarth Cymru, ac am 4.00pm ddydd Sul yn Neuadd y Santes Fair, Conwy. Caiff y cyngherddau eu hysbrydoli gan Gwendoline a Margaret Davies ac maent yn cynnig cefndir cerddorol i’w bywydau anhygoel a’r byd creadigol roeddent yn rhan ohono ac a gefnogwyd ganddynt.
Tachwedd 2025

Yr Ystafell Gerdd, Gregynog
Dyddiad 08/11/2025 Amser 11:00 am - 11:45 am
Lleoliad Gregynog
Cerddorion: Alys Roberts – soprano Elenid Owen – feiolin Cerddoriaeth: Cyfle gwych i fwynhau llu o drefniannau caneuon gwerin prin...

Yr Ystafell Gerdd, Theatr y Ddraig
Dyddiad 08/11/2025 Amser 4:00 pm - 4:45 pm
Lleoliad Theatr y Ddraig
Cerddorion: Alys Roberts – soprano Elenid Owen – feiolin Cerddoriaeth: Cyfle gwych i fwynhau llu o drefniannau caneuon gwerin prin...

Yr Ystafell Gerdd, Eglwys Santes Fair
Dyddiad 09/11/2025 Amser 4:00 pm
Lleoliad Eglwys Santes Fair, Conwy
Cerddorion: Alys Roberts – soprano Elenid Owen – feiolin Cerddoriaeth: Cyfle gwych i fwynhau llu o drefniannau caneuon gwerin prin...

Yr Ystafell Gerdd, Neuadd Dwyfor
Dyddiad 10/11/2025 Amser 11:00 am - 11:45 am
Lleoliad Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Cerddorion: Alys Roberts – soprano Elenid Owen – feiolin Cerddoriaeth: Cyfle gwych i fwynhau llu o drefniannau caneuon gwerin prin...
Rhagfyr 2025

Yr Ystafell Gerdd, Gregynog
Dyddiad 13/12/2025 Amser 11:00 am - 11:45 am
Lleoliad Gregynog
Cerddorion: Alena Walentin – ffliwt Richard Ormrod – piano Cerddoriaeth: Bydd y rhyfeddol Alena Walentin yn cyflwyno rhaglen wreiddiol yn...

Yr Ystafell Gerdd, Eglwys Santes Fair
Dyddiad 14/12/2025 Amser 4:00 pm
Lleoliad Eglwys Santes Fair, Conwy
Cerddorion: Alena Walentin – ffliwt Richard Ormrod – piano Cerddoriaeth: Bydd y rhyfeddol Alena Walentin yn cyflwyno rhaglen wreiddiol yn...

Yr Ystafell Gerdd, Neuadd Dwyfor
Dyddiad 15/12/2025 Amser 11:00 am - 11:45 am
Lleoliad Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Cerddorion: Alena Walentin – ffliwt Richard Ormrod – piano Cerddoriaeth: Bydd y rhyfeddol Alena Walentin yn cyflwyno rhaglen wreiddiol yn...

Y Gerddoriaeth
Mae rhaglenni unigryw yr Ystafell Gerdd yn canolbwyntio ar gerddoriaeth siambr sy’n deillio o Brydain a Ffrainc rhwng oddeutu’r 1890au a’r 1930au. Mae’r cyfansoddwyr o Brydain yn cynnwys Frank Bridge, Edward Elgar, Arnold Bax, Rebecca Clarke a Ralph Vaughan Williams. Mae’r cyfansoddwyr o Ffrainc yn cynnwys Gabriel Faure, Lili a Nadia Boulanger, Claude Debussy a Maurice Ravel. Mae pob rhaglen yn cynnwys rhwng dau a thri o berfformwyr, a chafodd y gweithiau eu dewis er mwyn arddangos amrywiaeth eclectig Ensemble Cymru o gerddorion clasurol sy’n perfformio cyfuniadau gwahanol, ac anarferol weithiau, er mwyn cynnig arlwy cerddorol gorfoleddus, difyr ac ystyrlon i gynulleidfaoedd.
Y Chwiorydd Davies
Roedd Gwendoline (1882-1951) a Margaret (1884-1963) Davies yn chwiorydd, yn ddyngarwyr ac yn noddwyr y celfyddydau ac fe etifeddodd y ddwy ffortiwn gan eu taid, a oedd yn ddiwydiannwr. Y celfyddydau oedd diddordeb mawr Margaret a cherddoriaeth oedd yn mynd â bryd Gwendoline, ac roedd gan eu bywydau yn ystod degawdau cynnar yr 20fed ganrif gysylltiad agos â Phrydain a Ffrainc. Teithiodd y ddwy yn eang, gan gasglu llu o baentiadau. Hefyd, buont yn gwasanaethu gyda’r Groes Goch yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl y rhyfel, prynodd y ddwy Neuadd Gregynog gan fynd ati i sefydlu canolfan ar gyfer y celfyddydau creadigol a gŵyl gerddorol.

Tîm Creadigol
Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig
Jonathan Lyness, Curadur y Rhaglen

