Ensemble Cymru @ Y Neuadd Fawr, Abertawe

Mai 2017

(Ffliwt, Feiolin, Fiola, Sielo, Telyn)

Anne Denholm, Royal Harpist
©Jerome Woodwark

Bydd Ensemble Cymru, pencampwyr cerddoriaeth siambr, yn dod â’u cyfres o gyngherddau poblogaidd i’r Neuadd Fawr, Abertawe am y tro cyntaf ar ddydd Sadwrn 13eg Mai 2017. Maent yn arddangos y gerddoriaeth siambr orau o Gymru ac ar draws y byd, felly peidiwch â cholli’r cyngerdd arbennig yma gan Ensemble Cymru.

Bydd y delynores frenhinol Anne Denholm, ynghyd â’r prif ffliwtydd Jonathan Rimmer a’r feiolinydd Lucy Nolan, yn dod â’r byd naturiol yn fyw i ni drwy chwarae Between Earth and Sea gan Sally Beamish, a From the Song of Amergin gan y gyfansoddwraig o Gymru, Hilary Tann.  Bydd y triawd Debussyaidd hwn hefyd yn dod â thelynegiaeth fyfyriol ac ingol Elegiac Trio Arnold Bax i ni.

Bydd y feiolinydd Elenid Owen a Heather Bills (sielo) yn ymuno â ni i berfformio darn gwefreiddiol gan Mozart, sef y Pedwarawd  Rhif 1 yn D fwyaf i’r Ffliwt. Bydd perfformiad o Fantaisie i’r feiolín a’r delyn gan Saint-Saëns hefyd yn ymddangos fel rhan o’r rhaglen.

 

 

Rhaglen:

Sally Beamish – Between Earth and Sea
Hilary Tann – From the Song of Amergin
Arnold Bax – Triawd Marwnadol
Mozart – Pedwarawd i’r Ffliwt Rhif 1 yn D fwyaf
Saint-Saëns – Fantaisie

Perfformwyr:

Ffliwt – Jonathan Rimmer
Feiolin – Elenid Owen
Fiola – Lucy Nolan
Sielo – Heather Bills
Harp – Anne Denholm*

*Cadair Ryngwladol Gaynor Cemlyn-Jones i’r Delyn

Tocynnau:

Llawn: £15

Consesiwn: £12

Myfyrwyr llawn amser Prifysgol Abertawe: £5

Gwybodaeth Archebu:

Telephone: 01792 604900 / 604999

Online: www.taliesinartscentre.co.uk/great-hall-events.htm

 

Dyddiad 13/05/2017 Amser 7:30 pm - 8:30 pm