Ensemble Cymru @ Gŵyl Gerddoriaeth Glasurol Conwy 2026

Huw Clement-Evans – Obô 
Meyrick Alexander – Basŵn
Richard Ormrod – Piano

Daw Ensemble Cymru â rhaglen sy’n rhychwantu’r canrifoedd. Sonata yn Eb, BWV1031, J. S. Bach sy’n cynrychioli’r oes cyn-ddiwydiannol, yna, Adagio ac Allegro yn Ab fwyaf i’r obo a’r piano gan Schummann, Opus 70, sy’n cynrychioli’r Oes Ddiwydiannol wnaeth hi’n bosib i adeiladu pont Telford. Bydd y cyfnod nesaf yn cael ei ddarlunio gan waith Francis Poulenc, Triawd i’r obo, basŵn a phiano, FP43. Yna, clywir darn a gomisiynwyd yn arbennig gan Ensemble Cymru a’r Ŵyl, gan gyfansoddwr lleol, Mared Emlyn, i ddathlu athrylith Telford mewn steil gyfoes a hygyrch.

Noddwyd gan Dr John and Mrs Susan Osley.

Ni chodir tâl mynediad i gyngherddau’r ŵyl. Gwahoddir cyfraniadau gan y gynulleidfa ar ôl pob perfformiad tuag at y costau sylweddol o redeg yr ŵyl.

https://www.conwyclassicalmusic.co.uk/

Dyddiad 22/07/2026 Amser 1:00 pm

Lleoliad Eglwys Santes Fair, Conwy