Mae Ensemble Cymru, sef ensemble preswyl Prifysgol Bangor a Venue Cymru, yn perfformio am y tro cyntaf yn Nhrefdraeth, gyda rhaglen ddelfrydol sy’n cynnwys Wythawd enwog Schubert – gwaith sylweddol i’w gyflawni ym myd cerddoriaeth siambr, sy’n parhau i swyno’r rhai sy’n mwynhau cerddoriaeth ledled y byd – ochr yn ochr â theyrnged Gymreig gyfoes o waith y cyfansoddwr, John Metcalf, i’r ffigwr hanesyddol mawr hwn.
“Mae Beethoven yn cyfansoddi fel pensaer. Mae Schubert yn cyfansoddi fel un sy’n cerdded yn ei gwsg.” Alfred Brendel
Rhaglen
Wythawd yn F fwyaf. D 803 (1824) – Schubert
Wythawd (2018) – John Metcalf
Tocynnau
Pris
Aelod clwb Plant gyda Rhieni ac / neu mewn addysg llawn amser |
£10
£ 5 Am ddim |
Swyddfa Docynnau: Wrth y Drws
“Mae ‘na ansawdd delynegol gynhenid i gerddoriaeth y cyfansoddwr o Gymru John Metcalf ……” – Gramophone
“… cyngerdd rhagorol o amrywiol ” – Wales Arts Review
“…arwrol a theimladwy dros ben ” – Critics Circle
Dyddiad 16/11/2019 Amser 4:00 pm - 5:30 pm