Blwyddyn a hanner gydag Ensemble Cymru

Alla i ddim credu mod i wedi bod yn gweithio gydag Ensemble Cymru ers blwyddyn a hanner fel ei Swyddog Datblygu o’m swyddfa yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn amser cyffrous iawn a dwi wrth fy modd yn gweithio gyda charfan o bobl sy’n mor ffeind a talentog ac minnau, cofiwch, yn fiolinydd amatur sydd angen tipyn o ymarfer! Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r Ensemble wedi cyflawni cymaint. Mae’r uchaf bwyntiau i mi yn cynnwys • Mynd ar ein taith genedlaethol gyntaf o berfformiadau o weithiau newydd gan gyfansoddwyr Cymreig, Christopher Painter a Gareth Glyn ochr yn ochr â gweithiau gan Grace Williams, Dvorák a Dohnányi. Ensemble Cymru Roeddwn i’n mwynhau cyfarfod â chymaint o’n rhoddwyr ffeind: Ensemble Cymru • Recordio Pedr a’r Blaidd gan Prokofiev yng Nghanolfan Ucheldre yng Nghaergybi fyddai ddim wedi bod yn bosib heb gefnogaeth ein cefnogwyr hael gan gynnwys Ymiddiriedolaeth Elusenol Colwinston, Ymddiriedolaeth Peter Sanders ac Ymddiriedolaeth Patsy Wood. Ensemble Cymru • Cymryd rhan yn y Sialens Gerddoriaeth Fawr ac rydym yn ddiolchgar iawn iawn i bawb sydd wedi cefnogi’r prosiect i’n helpu fynd â cherddoriaeth siambr i gymunedau gogledd Cymru. Cawsom ni wythnos arbennig o dda i hyrwyddo’r sialens o gwmpas gogledd Cymru yn ystod yr wythnos gyntaf ym mis Rhagfyr. Gellwch chi gefnogi’r prosiect cyffrous hwn gan glicio yma. Ensemble Cymru Rwyf yn edrych ymlaen yn arw at y flwyddyn o’n blaenau ni fydd yn cynnwys taith genedlaethol o Pedr a’r Blaidd ac byddwn ni’n rhoi gwybod mwy am hyn i chi yn y flwyddyn newydd. Edrych allan am fwy o gyfleoedd i gefnogi ac i ymwneud â’r ensemble yn ystod 2013! Gobeithio cewch chi Nadolig Llawen ac edrych ymlaen at eich gweld yn ein cyngherddau a digwyddiadau yn 2013. Hannah Roberts Swyddog Datblygu

1 comment

  1. Couldn’t quite believe it’s been that long a time either! It’s gone so fast ….thanks for all you’ve done for us Hannah.

Comments are closed.