Cerddoriaeth ac Atgofion Diwrnod Santes Dwynwen

Ar noson Diwrnod Santes Dwynwen derbyniais alwad ffôn a groesawyd yn fawr gan Peryn yn fy ngwahodd i berfformio ym Mhenucheldre ar ôl i’w telynores ar gyfer y digwyddiad fynd yn sâl. Dechreuodd fy nghysylltiad ag Ensemble Cymru 10 mlynedd yn ôl pan gwblheais i fy mhrofiad gwaith blwyddyn 10 yn yr ysgol gyda nhw felly braf oedd ailgysylltu ag Ensemble Cymru ar ôl sefydlu gyrfa fel cerddor erbyn hyn!

Ar Ddydd Mercher 26ain teithiais draw i Gaergybi ar gyfer digwyddiad Dwynwen ym Mhenucheldre. Treuliais y hanner awr cyn y digwyddiad yn sgwrsio gyda’r trigolion wrth osod y delyn, yn ateb eu cwestiynau am sut ar y ddaear rydw i’n cario offeryn o’r fath o gwmpas ac yn dod i adnabod eu hanes!

Roedd pob un o’r trigolion wedi dod â llun o rywun annwyl gyda nhw neu eitem oedd yn cynrychioli atgof arbennig yn ogystal â stori i’w rhannu. Mwynheais yn arbennig y pwyslais ar ddod i adnabod y preswylwyr a gwrando ar yr hyn yr oeddent am ei rannu a sut y gallwn gysylltu fy ngherddoriaeth â hyn. Chwaraeais ganeuon gan Lionel Richie ac Elvis Presley gydag un o’r trigolion yn canu efo fi! Wrth gwrs roeddwn i hefyd eisiau cynnwys ychydig o gerddoriaeth Gymraeg fel Calon Lân a Bugeilio’r Gwenith Gwyn a chwaraeais i thema Romeo a Juliet i ddathlu’r thema cariad.

Roedd y gerddoriaeth bob yn ail â thrafodaeth, roedd yna straeon am atgofion hapus, rhai atgofion ddim mor hapus yn ogystal â meddyliau ar thema cariad. Ar ddiwedd y sesiwn gofynnwyd i mi chwarae ABBA felly daeth y sesiwn i ben gyda Dancing Queen! Roedd y digwyddiad yn galonogol iawn ac roeddwn yn teimlo bod yr holl trigolion wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i’r gerddoriaeth yn ogystal â’r cyfle i rannu straeon. Mae’r trigolion hefyd yn edrych ymlaen at ymweliadau gan Ensemble Cymru yn y dyfodol gan gynnwys digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi. Diolch Ensemble Cymru!


Am Penucheldre: “Mae Penucheldre yn gynllun tai gofal ychwanegol. Mae’r cyfleuster yn darparu gwasanaethau tai, cymorth a gofal i bobl dros 60 oed.”

Rydym yn ddiolchgar i’r Loteri Genedlaethol a ddosranwyd gan Cyngor Celfyddydau Cymru; ac Elusen Gwendoline a Margaret Davies am ei gefnogaeth yn ogystal â’r nifer mawr o unigolion rhyfeddol sy’n parhau i gyfrannu mor hael i’n gweithgareddau.

Darganfyddwch fwy am Bethan ar ei gwefan: www.bethanharpist.com