Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o gerddorion

Gyda chefnogaeth hael Ymddiriedolaeth Gaynor Cemlyn-Jones, mae Ensemble Cymru yn cefnogi Rhaglen Cyflogadwyedd Bangor 100. Rydym wedi ein syfrdanu’n llwyr gan Tia a Harry – dau fyfyriwr cerdd o Brifysgol Bangor sydd wedi ymuno â ni am 6 wythnos, fel rhan o’r Rhaglen Cyflogadwyedd. Maent wedi bod yn ein helpu drwy hyrwyddo, perfformio a rheoli… Continue reading Cefnogi’r genhedlaeth nesaf o gerddorion

Cerddoriaeth ac Atgofion Diwrnod Santes Dwynwen

Ar noson Diwrnod Santes Dwynwen derbyniais alwad ffôn a groesawyd yn fawr gan Peryn yn fy ngwahodd i berfformio ym Mhenucheldre ar ôl i’w telynores ar gyfer y digwyddiad fynd yn sâl. Dechreuodd fy nghysylltiad ag Ensemble Cymru 10 mlynedd yn ôl pan gwblheais i fy mhrofiad gwaith blwyddyn 10 yn yr ysgol gyda nhw… Continue reading Cerddoriaeth ac Atgofion Diwrnod Santes Dwynwen

ChamberFest 2015: Bach

Rydym yn cynnal un o’r dathliadau mwyaf o gerddoriaeth siambr yng Nghymru a gelwir yr ŵyl yn ChamberFest. Y thema ar gyfer digwyddiad 2015 fydd cerddoriaeth J.S. Bach, a chynhelir y prif ddigwyddiad ar 20 a 21 Mawrth (21 Mawrth oedd pen-blwydd Bach). Y newyddion da yw bod y digwyddiad hwn yn agored i bawb! Rydym yn… Continue reading ChamberFest 2015: Bach

Mae’n gerddoriaeth i’n clustiau – cantorion yn ymuno ag Ensemble Cymru ar gyfer ein tymor newydd o Gyngherddau Coffi

Mae Tachwedd yn garreg filltir o bwys i’r sefydliad cerddoriaeth siambr, Ensemble Cymru. Am y tro cyntaf erioed, bydd cantorion yn perfformio fel rhan o’r ensemble ar gyfer ei dymor newydd sbon o Gyngherddau Coffi – cyfres y Lleisiau Clasurol. Bydd y soprano a anwyd ym Môn, Llio Evans, yn ymuno ag Ensemble Cymru ar… Continue reading Mae’n gerddoriaeth i’n clustiau – cantorion yn ymuno ag Ensemble Cymru ar gyfer ein tymor newydd o Gyngherddau Coffi